Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 8)
Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 125)
125 MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 8) PDF 109 KB
Pwrpas: Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1, eitem 125 PDF 102 KB
- Appendix 2, eitem 125 PDF 167 KB
- Appendix 3, eitem 125 PDF 65 KB
- Appendix 4, eitem 125 PDF 41 KB
- Appendix 5, eitem 125 PDF 71 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.
Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:
Cronfa’r Cyngor:
- Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.846m yn uwch na’r gyllideb; a
- Rhagamcanir y bydd balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £4.236m.
Cyfrif Refeniw Tai:
- Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.035m yn uwch na’r gyllideb; a
- Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.
Yr amrywiannau mwyaf sylweddol a ragamcanwyd oedd y tanwariant ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r amrywiant cadarnhaol ar y gronfa gasglu Treth y Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y gwnaed sylwadau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar ar y gorwariant yn ystod y flwyddyn ar Leoliadau y Tu Hwnt i’r Sir, ond roedd yr Aelodau’n fodlon ag ymateb y swyddogion y bydd y maes hwnnw’n cael ei adolygu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r
Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai.