Mater - cyfarfodydd
Stages One and Two of the Council Fund Budget 2018/19 and Planning for the Closing Stage Three
Cyfarfod: 30/01/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 87)
87 Camau Un a Dau o Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 a Chynllunio ar gyfer Cau Cam Tri PDF 152 KB
Pwrpas: Cymeradwyo diweddu Camau 1 a 2 o’r broses i bennu cyllideb, yn dilyn trefn briodol Trosolwg a Chraffu, a nodi’r gofynion cyllidebol sy’n weddill ar gyfer y trydydd a’r pedwerydd cam i gyflawni cyllideb gytbwys. Bydd Cam 3 o’r broses gyllideb yn cael ei adrodd wrth y Cyngor ym mis Chwefror.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1, eitem 87 PDF 320 KB
- Appendix 2, eitem 87 PDF 166 KB
- Appendix 3, eitem 87 PDF 43 KB
- Appendix 4, eitem 87 PDF 44 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Camau Un a Dau o Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 a Chynllunio ar gyfer Cau Cam Tri
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gamau Un a Dau Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 a’r adroddiad Cynllunio ar gyfer Diwedd Cam Tri. Wedi’i ategu i’r adroddiad oedd opsiynau effeithlonrwydd Cam Un, opsiynau effeithlonrwydd Cam Dau wedi’u cadarnhau, crynodeb o’r asesiad o’r effaith a phwysau ac effeithlonrwydd costau newydd. Dosbarthwyd fersiwn diwygiedig o atodiad 3, crynodeb o’r asesiad o’r effaith.
Darparwyd diweddariad o gynigion cyllideb Cam Un a oedd yn cynnwys y taliadau gwastraff ac integreiddio’r Gwasanaeth Cerddoriaeth a’r Tîm Datblygu’r Celfyddydau gyda Theatr Clwyd. Yr eitemau a oedd yn weddill i’w datrys o gynigion cyllideb Cam Dau oedd cyllid ysgolion, taliadau meysydd parcio cyhoeddus a’r cynnydd yn y Dreth Gyngor. Wrth drafod un arbediad posibl o gyllideb GwE o 3%, fe esboniodd mai’r canlyniad gorau ar y cyd a negodwyd oedd gostyngiad o 1% mewn cyfraniadau. Fodd bynnag, gyda’r pwysau chwyddiant, nid oedd y gostyngiad o 1% yn arbed unrhyw gyllid i’r Cyngor mewn termau real. Roedd y gyllideb tymor hwy ar gyfer GwE yn destun adolygiad yn awr cyn 2019/20.
Darparwyd manylion hefyd ar dri chais am gefnogaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar yr uchafswm tâl ar gyfer costau gofal cartref, parhad gwarantedig cyllid y Gronfa Gofal Canolraddol a chadw cyfran o’r cyfraniadau Ardoll Treth Prentisiaid.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o effaith canlyniadau hysbys Camau Un a Dau a oedd wedi arwain at fwlch gweddilliol o £5.9 miliwn.
O ran y Dreth Gyngor, esboniodd y Prif Weithredwr bod yr opsiynau wedi’u rhannu gyda’r Aelodau, a’u bod yn amrywio o gynnydd o rhwng 3% a 5%. Roedd y Setliad Terfynol gan Lywodraeth Cymru wedi pennu’r Asesiad Gwariant Safonol o £264.333 miliwn ar gyfer Sir y Fflint; Byddai ariannu Sir y Fflint ar yr Asesiad Gwariant Safonol ac i wneud y mwyaf o’i incwm trethiant lleol yn erbyn y targed tybiannol hwnnw yn galw am gynnydd o 6.71% i’r Dreth Gyngor. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod gan gynghorau yr hyblygrwydd i fynd y tu hwnt i’r ‘cap’ blynyddol blaenorol o gynnydd 5% pe byddai ganddynt ddadl leol gref.
Cronfeydd defnyddiol cyfyngedig sydd gan y Cyngor a nifer o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a oedd yn cynnwys rhai balansau gwasanaeth a oedd wedi’u cario ymlaen i dalu am wariant penodol mewn blwyddyn, a rhai cronfeydd wrth gefn gyda thelerau ac amodau cysylltiedig a oedd yn cyfyngu eu defnydd. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r holl gronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi ac i herio’r rhai nad oeddent wedi’u defnyddio o fewn yr amserlen a nodwyd yn wreiddiol. Byddai angen ad-dalu unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn i falansio cyllideb 2018/19 mewn blwyddyn ddiweddarach.
Esboniodd y Prif Weithredwr un o’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, sef y dyfarniad cyflog cenedlaethol; roedd y Cyngor wedi cyllidebu ar gyfer dyfarniad cyflog blynyddol o 1% yn ei ragolygon ond roedd Undebau Llafur yn galw am ddyfarniadau uwch. Roedd Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio nad oedd unrhyw arian ar gael i gyflawni dyfarniadau cyflog cenedlaethol uwch na’r rhagolygon ac roedd yn disgwyl i Lywodraeth y ... view the full Cofnodion text for item 87