Mater - cyfarfodydd
Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyfarfod: 19/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 47)
47 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 PDF 114 KB
Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2017/18. Esboniodd fod yr adroddiad yn cyflwyno’r gwaith o fonitro cynnydd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, gan fod cynnydd da yn cael ei wneud mewn 81% o’r gweithgareddau a aseswyd, ac roedd 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunir. Roedd Dangosyddion Perfformiad yn dangos cynnydd da ac roedd 84% wedi cyrraedd targed y cyfnod, neu bron â’i gyrraedd. Llwyddwyd i reoli risgau hefyd ac aseswyd y mwyafrif fel risgiau canolig (67%) neu fân (10%).
Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw ddangosyddion perfformiad wedi’u nodi fel rhai statws coch o ran eu perfformiad presennol yn erbyn y targed ar gyfer y Pwyllgor ac nid oedd unrhyw risgiau wedi’u nodi. Roedd cynnydd yn erbyn y risgiau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor wedi’u cynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad.
Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Cadeirydd ynghylch y cyfyngiadau i fusnesau lleol a chyflenwyr lleol, esboniodd y Prif Swyddog y byddai’r Strategaeth Budd Cymunedol yn gwella datblygiad marchnadoedd yn y gymuned leol a’r trydydd sector yn sgil newidiadau i’r broses gaffael bresennol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2017/18.