Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report

Cyfarfod: 13/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 64)

64 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddogion (Cynllunio a’r Amgylchedd) a (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2017/18 mewn perthynas â’r flaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw’r Aelodau at feysydd fel nodi strategaeth ddewisol y Cynllun Datblygu Lleol ac opsiynau ar gyfer gwella perfformiad ailgylchu yn safleoedd ailgylchu nwyddau cartref.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod trafodaethau yn cael eu cynnal ar y defnydd posibl o blastigau wedi’u hailgylchu yn gymysg â bitwmen y gellid ei osod ar arwynebau rhai ffyrdd, fodd bynnag, nid oedd y dull hwn wedi ei brofi hyd yma.  Byddai angen i ddyraniad £1.427m Sir y Fflint o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal ffyrdd ynghyd â dyraniad cyfalaf y Cyngor gael ei ddyrannu’n ofalus i ddarparu’r manteision gorau posibl. Cynhaliwyd arolwg o’r holl ffyrdd i ddatblygu rhaglen a fyddai’n cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Evans, esboniwyd y byddai amodau’r ffyrdd a’r tywydd yn penderfynu a fyddai’n gost-effeithiol i selio’r tyllau yn y ffyrdd ar ôl eu trwsio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gay at nifer o broblemau yn ei ward, gan gynnwys tipio anghyfreithlon yn y ganolfan ailgylchu nwyddau cartref yn Saltney a cholli gwasanaethau bysiau yn Boundary Lane. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai’r opsiynau ar gyfer trefniadau trafnidiaeth gymunedol yn cael eu rhannu yn y gweithdy a oedd i’w gynnal yn y dyfodol ac anogodd yr Aelodau i roi gwybod i’r goruchwyliwr ardal perthnasol am unrhyw broblemau yn ymwneud ag arwyneb ffyrdd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hinds a fyddai mwy yn gallu cael ei wneud i roi cyhoeddusrwydd i amserlenni bysiau pan fydd gwasanaethau yn newid. Dywedodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg fod y tîm yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion. Aeth ymlaen i ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman ar waredu bysiau ar ôl i gwmni GHA Coaches fynd i’r wal, a dywedodd fod arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn trefniadau trafnidiaeth.

 

Yn ystod trafodaeth ar drefniadau staffio, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) mai Derrick Charlton oedd swyddog arweiniol llwybrau cyhoeddus bellach, ac roedd dull gweithredu yn cael ei ystyried gyda Wrecsam mewn perthynas â’r Fforwm Mynediad Lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad monitro 3ydd Chwarter Cynllun y Cyngor 2017/18 i fonitro tanberfformio.