Mater - cyfarfodydd

North Wales Population Assessment Regional Plan

Cyfarfod: 25/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 43)

43 Cynllun Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru pdf icon PDF 112 KB

Adolygu a chymeradwyo’r Cynllun Drafft Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i adolygu a chymeradwyo fersiwn drafft o Gynllun Rhanbarthol Asesu Poblogaeth Gogledd Cymru. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod awdurdodau lleol a Byrddau iechyd yn gorfod paratoi  cynllun ardal ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth erbyn 1 Ebrill 2018. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad yn ymwneud â’r blaenoriaethau rhanbarthol, ymateb i benodau’r asesiad poblogaeth a’r themâu craidd, a’r casgliadau cyffredinol. Rhoddodd gyflwyniad ar Gynllun Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd yn cynnwys y meysydd allweddol canlynol:

 

·         Plant a phobl ifanc

·         Pobl h?n

·         Iechyd, anabledd corfforol a nam ar y synhwyrau

·         Anableddau dysgu

·         Iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau

·         Gofalwyr

·         Trais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref a thrais rhywiol

·         Ystâd ddiogel

·         Cyn filwyr

·         Tai a digartrefedd

·         Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ei gyflwyniad a gwahoddodd aelodau’r pwyllgor i ofyn cwestiynau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill pa gefnogaeth oedd ar gael i deuluoedd oedd mewn sefyllfa o argyfwng oherwydd eu bod yn gofalu am berthynas h?n oedd yn dioddef o ddementia a heb fod mewn ysbyty na chartref nyrsio.  Cyfeiriodd hefyd at ASD a’r angen am ymyrraeth gynnar a gofynnodd pa oed y dylid rhoi meddyginiaeth i blant. Dywedodd y Prif Swyddog fod asesiad meddygol yn cael ei wneud o’r unigolyn ond nad oedd oedran penodol ar gyfer gwneud hyn.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn cefnogi’n rhagweithiol bobl â dementia a chyfeiriodd at y ddarpariaeth seibiant a gwasanaethau cymorth gofal yn y cartref oedd ar gael i helpu pobl i ymdopi. Dywedodd Uwch Swyddog - Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion fod yr Awdurdod hefyd yn ariannu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru a oedd yn darparu gwybodaeth am Linell Ofal Argyfwng i ofalwyr a chyfeiriodd at y cynllun ‘pontio’r bwlch’.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylwadau yngl?n â phroblem digartrefedd oedd yn datblygu a bod prinder llety addas, ac effaith hyn ar ymddygiad plant, a lles meddyliol rhieni.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â chynnydd yn nifer y plant ar y Gofrestr Diogelu Plant,  eglurodd y Prif Swyddog fod y cynnydd o 9% y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn rhanbarthol a bod cynnydd cenedlaethol yng Nghymru. Dywedodd Uwch Swyddog, Plant a Gweithlu, fod y cynnydd yn deillio’n rhannol oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth ymysg asiantaethau o ddiogelwch a materion diogelu plant ac ymyrraeth gynnar. Hefyd cyfeiriodd at brosiect oedd ar fin dechrau i gefnogi mamau oedd yn beichiogi’n gyson ac yn methu â gofalu am eu plant. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Kevin Hughes sylwadau ar y mater o fwlio ar-lein a’r angen i hysbysu a gweithio’n agos gydag ysgolion i gefnogi disgyblion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i weithio gydag ysgolion i hybu bwyta’n iach a mynd i’r afael â phroblem gordewdra. Rhoddwyd sicrwydd gan y Cynghorydd Christine Jones a’r Prif Swyddog fod y ddau fater yn cael sylw ym mholisi  ...  view the full Cofnodion text for item 43