Mater - cyfarfodydd
Regional Regeneration Strategy and Welsh Government Targeted Regeneration Investment Programme
Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 175)
175 Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru a’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio PDF 101 KB
Pwrpas: Cymeradwyo Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru a’r dull cydweithredol arfaethedig yng ngogledd Cymru i weithredu’r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) adroddiad ar y Strategaeth Adfywio Ranbarthol a Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI).
Lansiodd Llywodraeth Cymru (LlC) y Rhaglen TRI i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau adfywio ar draws Cymru. Roedd y cyllid yn amodol ar gyflwyno strategaeth adfywio ranbarthol a mabwysiadu dull blaenoriaeth ranbarthol o ddatblygu cynigion buddsoddi.
Roedd strategaeth adfywio ddrafft wedi cael ei datblygu o fewn yr amserlen heriol a osodwyd ar gyfer y broses, a dull cydweithredol wedi’i fabwysiadu ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu buddsoddiad, ac i dargedu’r adnoddau prin at ardaloedd adfywio blaenoriaeth a phrosiectau thematig a fyddai’n defnyddio tair blynedd gyntaf y rhaglen TRI.
Roedd strategaeth adfywio ddrafft Gogledd Cymru’n cynnig deuddeg o drefi fel ardaloedd adfywio blaenoriaeth, a chawsant eu rhestru yn yr adroddiad. Cafodd y trefi hyn eu hadnabod ar sail eu safle ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer amddifadedd. Roedd safleoedd trefi Treffynnon a Shotton yn Sir y Fflint yn 7fed ac 8fed. Roedd dau brosiect thematig a allai gael eu gweithredu i’r trefi yn Sir y Fflint, sef adnewyddu tai ac adeiladau allweddol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r strategaeth adfywio ranbarthol ddrafft i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.