Mater - cyfarfodydd

Budget Process

Cyfarfod: 31/01/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 19)

19 Proses y Gyllideb pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I amlinellu ymgynghoriad y Cyngor ynghylch y gyllideb i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i adolygu’r broses ar gyfer gosod proses y gyllideb flynyddol, fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Awgrymwyd y dylid adolygu’r broses ar ôl cwblhau gwaith ar gyllideb 2018/19, i ddatblygu protocol ymgynghori ar gyfer y gyllideb. Gellid wedyn diweddaru’r rheolau yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu proses y gyllideb yn fanylach.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Heesom ar bwerau penderfynu, eglurodd y Prif Swyddog mai’r Cabinet oedd yn gwneud y mwyafrif o’r Penderfyniadau, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth, ond bod penderfyniadau pwysig fel y rheiny yng nghyswllt y gyllideb yn cael eu cadw i’w cymeradwyo gan y Cyngor Sir. Roedd y broses yn cynnwys cyfleoedd i Aelodau nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet gael rhoi mewnbwn, a rhoddwyd amryw enghreifftiau lle roedd cynigion wedi’u herio gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a oedd yn arwain at wneud argymhellion i’r Cabinet. Byddid yn ceisio cyfraniadau gan Aelodau mewn perthynas â dylunio proses y gyllideb o fewn amodau’r ddeddfwriaeth.

 

O ran y protocol ar gyfer y gyllideb, cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr egwyddor o rannu gwybodaeth gydag Aelodau. Dywedodd y dylid darparu mwy o fanylion i egluro’r rhesymau dros symudiad ym mwlch y gyllideb yn erbyn cyfanswm yr incwm ac y dylai gwybodaeth am bortffolios fod ar gael. Eglurodd y swyddogion y darparwyd dadansoddiad o’r bwlch yn y gyllideb. Cytunodd y Prif Swyddog y byddai lefel y wybodaeth yn cael ei hadolygu i egluro’r symud o ran y bwlch ym mhob cam er mwyn helpu Aelodau i gymeradwyo’r gyllideb gyffredinol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Healey mai’r rheswm dros ei gais am adolygiad o broses y gyllideb oedd safoni’r broses. Roedd hyn wedi codi o’i bryderon nad oedd rhai o’r materion mwy o fewn opsiynau cyllideb Cam 2 wedi cael eu hystyried gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol.                                

 

Roedd y Cynghorydd Hughes yn canmol y gweithdai i Aelodau yn ystod y broses.

 

Roedd y Cynghorydd Shotton yn croesawu’r ymagwedd raddol tuag at gymeradwyo’r gyllideb ac roedd yn cefnogi’r egwyddorion o ran y protocol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, oherwydd gwaith parhaus ar broses y gyllideb, mai argymhelliad ychwanegol oedd symud dyddiad cyfarfod nesaf y Pwyllgor.              

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn sicr o’r broses sy’n cael ei defnyddio ar gyfer ymgynghori a chraffu yng nghyswllt Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19;

 

(b)       Bod adroddiad pellach, sy’n adolygu proses y gyllideb ar gyfer 2018/19 ac sy’n cynnwys newidiadau i’r Gyllideb a’r Fframwaith Polisi yn cael ei baratoi ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol;

 

(c)       Bod yr holl Aelodau ac Aelodau cyfetholedig yn cael eu gwahodd i gyfrannu at y broses adolygu; a

 

(d)       Bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei symud i fis Ebrill.