Mater - cyfarfodydd
Review of Codes and Protocols
Cyfarfod: 08/01/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 46)
46 Adolygiad o Godau a Phrotocolau PDF 78 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried amserlen er mwyn adolygu’r codau a phrotocolau o fewn Cyfansoddiad y Cyngor oedd o dan gylch gwaith y Pwyllgor. Rhannwyd amserlen ddrafft, gan gydnabod y gellid bod angen adolygu eto fel bo’n angenrheidiol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at y protocol ar gynhyrchu newyddlenni cynghorwyr a dywedodd y dylid canolbwyntio mwy ar y risgiau sydd ynghlwm â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Swyddog Monitro i gylchredeg canllawiau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a threfnu eitem ar gyfer yr agenda yn y dyfodol er mwyn trafod hyn mewn mwy o fanylder.
Penderfynodd y Pwyllgor ar eglurder yr adroddiad, yn amodol ar newid gwall teipograffyddol a'r eitem yn y dyfodol ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu’r amserlen ar gyfer adolygu codau a phrotocolau; a
(b) Rhoi eitem ar ddefnydd cynghorwyr o’r cyfryngau cymdeithasol ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi cylchredeg canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.