Mater - cyfarfodydd
Adoption of a Developer Advice Note and Supplementary Guidance relating to Newt Mitigation
Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 117)
117 Mabwysiadu Nodyn Cyngor Datblygwr a Chanllawiau Atodol yn ymwneud â Newt Mitigation PDF 88 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu’r canllawiau atodedig fel Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn ychwanegu pwysau i’r canllawiau pan gânt eu defnyddio at ddibenion Rheoli Datblygiad wrth bennu ceisiadau cynllunio.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Adoption of a Developer Advice Note and Supplementary Guidance relating to Newt Mitigation, eitem 117 PDF 6 MB
- Enc. 2 for Adoption of a Developer Advice Note and Supplementary Guidance relating to Newt Mitigation, eitem 117 PDF 105 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ar Fabwysiadu Nodyn Cyngor i Ddatblygwyr a Chanllawiau Atodol mewn Perthynas â Mesurau Lliniaru Madfallod D?r, oedd yn ceisio cymeradwyaeth derfynol i fabwysiadu dau nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio yn ffurfiol.
Mae’r Nodyn Cyfarwyddyd i Ddatblygwyr ar Ddatblygiad Tybiannol eisoes wedi’i fabwysiadu, ond heb ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae bellach wedi bod trwy broses ymgynghori gyhoeddus a gellir ei fabwysiadu’n ffurfiol fel Nodyn Cyngor. Roedd y Nodyn Mesurau Lliniaru Madfallod D?r yn Nodyn newydd, a gynhyrchwyd i gyd-fynd â’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol rhif 8 presennol ar Warchod Natur, er mwyn ychwanegu cyngor mwy manwl ar y mesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â Madfallod D?r Cribog. Gellir mabwysiadu’r Nodyn hwnnw fel Canllaw Cynllunio Atodol ffurfiol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo mabwysiadu’r Nodyn Cyngor Datblygiad Tybiannol a’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Mesurau Lliniaru Madfallod D?r, er mwyn rhoi pwysau y tu ôl iddynt fel ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio penodol.