Mater - cyfarfodydd
Recommendation from the Clwyd Pension Fund Committee
Cyfarfod: 12/12/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 78)
78 Argymhelliad gan Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd PDF 79 KB
Pwrpas: Dyfarnu uwch gyflog ychwanegol ar gyfer swydd Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ar ôl datgan cysylltiad, gadawodd y Cynghorydd David Hughes y siambr ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad oedd yn argymell cymeradwyo lwfans o £8,700 i Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, fyddai’n cael ei ôl-ddyddio i ddechrau blwyddyn y cyngor. Cronfa Bensiynau Clwyd fyddai’n talu’r gost.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y dylid cymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo lwfans o £8,700 i Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, fyddai’n cael ei ôl-ddyddio i ddechrau blwyddyn y cyngor, sef 18 Mai 2017; a
(b) Cynnwys manylion y taliad o fewn Atodlen y Cyngor o Daliadau Aelodau, fel bod yn ychwanegol i’r 18 uwch gyflog a reoleiddir.