Mater - cyfarfodydd

Betsi Cadwaladr University Health Board

Cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 12)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwrpas:  Darparu diweddariad cyffredinol ar Ofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol. 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Jane Bryant, Cyfarwyddwr Nyrsys Ardal, a Dr Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol Ardal y Dwyrain, i’r cyfarfod. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol yn fras. Soniodd Jane Bryant am yr ystod o wasanaethau nyrsio a chymunedol a oedd ar gael i gefnogi pobl a oedd yn dymuno cael gofal gartref. Bu iddi drafod y gefnogaeth a roddwyd i gleifion a oedd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty i’w galluogi i gael gofal a thriniaeth gartref ac aros yn eu cymuned.

 

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau Gofal Sylfaenol gan Dr Gareth Bowdler ac fe soniodd am yr amodau a’r telerau gwell i gyflogi meddygon teulu.  Disgwylid iddynt gynorthwyo wrth gynnig gwaith i feddygon yn Sir y Fflint i fynd i’r afael â’r prinder wrth recriwtio.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu diweddariad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rita Johnson at gau Ysbyty’r Fflint a cholli gwelyau a gofynnodd a oedd Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn gallu ymdopi â'r galw. Cadarnhaodd Jane Bryant fod yr ysbyty yn gymharol llawn, ond roedd y Metron yn gweithio gydag Ysbyty Glan Clwyd a meddygon teulu i sicrhau bod gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.  Roedd hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar drin cleifion gartref o fewn oriau gwaith a thu hwnt fel maes allweddol i'w ddatblygu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y staff mewn Unedau Mân Anafiadau. Teimlai ar rai achlysuron nad oedd y staff yn gymwys/hyderus i roi triniaethau e.e. pwythau neu roi diferwyr mewn gwythiennau, a oedd yn golygu bod angen i gleifion ymweld ag Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai staff nyrsio symud rhwng prif Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau i gynnal sgiliau. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill hefyd y gallai cleifion fod yn awyddus i beidio â chael eu rhyddhau o’r ysbyty gan na fyddent o fewn cyrraedd profion diagnostig yn syth, fel fyddai cleifion yn yr ysbyty.

 

Cytunodd Dr Gareth Bowdler fod angen sicrhau bod gan staff nyrsio mewn Unedau Mân Anafiadau y gallu a’r sgiliau cywir ac roedd hwn yn faes datblygu a oedd yn brif flaenoriaeth. Cyfeiriodd Rob Smith at yr adolygiad o ddarpariaeth gofal brys a oedd yn cael ei gynnal ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, a edrychai ar welliannau gan gynnwys cysylltiadau mwy clos rhwng meddygon teulu, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau. Roedd integreiddio a symud staff rhwng gofal sylfaenol ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau'n cael ei ystyried. Cydnabu Dr Bowdler fod lle i wella wrth gynllunio i ryddhau cleifion ac un o’r cysyniadau allweddol oedd y dylid dechrau cynllunio i ryddhau claf cyn gynted ag y mae wedi'i dderbyn. O ran profion diagnostig, dywedodd Dr Bowdler fod gwaith ar fynd i  ...  view the full Cofnodion text for item 12