Mater - cyfarfodydd

The Introduction of Garden Waste Charges in Flintshire

Cyfarfod: 19/12/2017 - Cabinet (eitem 105)

105 Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        I gael cymeradwyaeth y Cabinet i’r trefniant ffioedd gwastraff gardd o fewn y gwasanaeth gwastraff.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Thomas adroddiad Cyflwyno’r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint a oedd yn nodi sut byddai’r cynnig yn cael ei weithredu a darparu amcangyfrif ar gyfer y budd ariannol cysylltiedig i’r Cyngor o’r cynnig. 

 

            Nid oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd a gan ystyried y cyfnod presennol o gyni a’r heriau ariannol parhaus a wynebir gan y Cyngor, roedd yn angenrheidiol bellach i gyflwyno ffi o £30 ar gyfer casglu gwastraff gardd a fyddai’n debyg i’r ffi a gyflwynwyd gan nifer o Gynghorau yng Ngogledd Cymru a nifer gynyddol o Gynghorau ar draws Cymru a Lloegr.  Y ffi am ail neu drydydd bin fyddai £30 hefyd.

 

            Byddai preswylwyr yn cael gwybod am y ffi drwy lythyr a thrwy sticeri a fyddai’n cael eu rhoi ar y biniau gwastraff gardd ym mis Ionawr 2018.  Byddai rhagor o ohebiaeth yn cael ei hanfon gyda’r wybodaeth am Dreth y Cyngor ym mis Mawrth 2018, a byddai gan breswylwyr tan 1 Ebrill 2018 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.  Byddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i bob preswyliwr ym mis Mawrth 2018. Roedd Rheolwr Prosiect ar waith i sicrhau bod y trefniadau’n cael eu cyflwyno’n llyfn, ac ni fyddai cost ychwanegol i’r Cyngor.

 

            Cyfeiriodd Cynghorydd Thomas at sylw gan Cynghorydd Peers yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ar 20 Tachwedd 2017 ar y gorwariant yn y gwasanaeth.  Eglurodd fod hyn yn ymwneud ag amgylchiadau na ragwelwyd fel y cynnydd o ran taliadau trydan.  O ran a allai’r gwasanaeth ganfod arbedion effeithlonrwydd pellach yn hytrach na chyflwyno’r tâl hwn, eglurodd fod y gwasanaeth eisoes wedi cael lleihad yn y gyllideb o 40% ac ni ellid dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

            Ailadroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) mai gwasanaeth dewisol oedd hwn nad oedd gofyn i’r Cyngor ei ddarparu.  Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ei Glasbrint Casgliadau Gwastraff a oedd yn nodi’r dull darparu dewisol ar gyfer casgliadau gwastraff yng Nghymru, er mwyn darparu lefelau uchel a chynaliadwy o ran ailgylchu.  Roedd gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu presennol Sir y Fflint yn alinio â’r Glasbrint gan mwyaf.  Fodd bynnag, roedd y Glasbrint yn argymell y dylid cynnig y gwasanaeth hwn ar sail taladwy.

 

            Soniodd am safon uchel a nifer y Canolfannau Ailgylchu Cartref yn y Sir a fyddai â digon o gapasiti i gael gwastraff gardd ar gyfer y preswylwyr hynny nad oeddent yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. 

 

            Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, roedd consesiynau wedi’u trafod.  Eglurodd byddai hyn yn gymhleth i’w gyflwyno i sicrhau ei bod yn broses deg; byddai’n heriol i’w weithredu ac roedd yn mynd yn groes i Bolisi Ffioedd a Thaliadau newydd y Cyngor.  Fodd bynnag, byddai blwyddyn gyntaf gweithredu ar gyfer gwrando a dysgu.

 

            Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cofnodion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd yn amlinellu’r sylwadau gan Aelodau am y cynnig hwn.  Y penderfyniad oedd “Nodi sylwadau'r Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 105