Mater - cyfarfodydd

Pest Control

Cyfarfod: 12/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 47)

47 Rheoli Plâu pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad yn amlinellu’r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Sir y Fflint gan y Tîm Rheoli Plâu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad ar waith gwasanaeth Rheoli Plâu'r Cyngor.  Tynnodd sylw at y pwysigrwydd o ran parhau â'r gwasanaeth anstatudol hwn i helpu i gwrdd â’r agenda iechyd y cyhoedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Amddiffyn Cymuned a Busnes fod ffocws cynyddol ar hyrwyddo'r gwasanaeth ac y gallai Aelodau gynorthwyo trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion.

 

Siaradodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu am brofiad helaeth y tîm bach wrth ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel a gydnabuwyd mewn adborth cadarnhaol gan drigolion.  Roedd nifer o fentrau i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau sydd ar gael a oedd am bris cystadleuol ac yn cynnwys ymweliadau dilynol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) bod gwasanaethau ataliol hefyd yn cael eu cynnig i gleientiaid ac mai'r nod hirdymor oedd datblygu model hunan-ariannu ar gyfer y gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans am ddelio â phroblemau plâu sy'n deillio o eiddo person arall.  Dywedodd yr Arweinydd Tîm mewn perthynas â thir preifat y byddai'r tîm yn cysylltu â’r trigolion hynny ac yn rhoi cyngor i'w hannog i fynd i'r afael â'r broblem.  Pe bai'r broblem yn digwydd ar eiddo'r Cyngor, gellid gwneud hyn trwy gydweithwyr yn y Gwasanaethau Tai.

 

Canmolodd y Cadeirydd y gwasanaeth a roddwyd gan y Cyngor.  Teimlai na ddylai rhywun sy'n rhoi gwybod am bla ar eiddo cymydog ddwyn y gost o'i ddatrys a dylai cynghorau gael mwy o bwerau i fynd i'r afael â hyn.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Shotton broffesiynoldeb y tîm a thynnodd y Cynghorydd Legg sylw at y peryglon o anwybyddu rheolaeth pla.

 

Pan ofynnwyd am daliadau, dywedodd y Rheolwr fod y rhain yn cael eu hadolygu'n flynyddol ac yn cael eu cynnwys gyda’r taflenni cyhoeddusrwydd sy’n cael eu dosbarthu i gleientiaid masnachol.  Nododd, yn wahanol i gwmnïau'r sector preifat, sy'n darparu gwasanaethau rheoli plâu, roedd y Cyngor yn gallu cynnig cyfraddau rhatach i gartrefi sy'n cwrdd â'r meini prawf.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, esboniodd swyddogion y trefniadau gyda North Clwyd Animal Rescue i gymryd c?n crwydr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad ac yn hyrwyddo'r gwasanaeth Rheoli Pla yn eu cymunedau lleol, lle bo modd.