Mater - cyfarfodydd

Financial Procedure Rules

Cyfarfod: 31/01/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 15)

15 Rheolau Gweithdrefnau Ariannol pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Darparu Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru i’r Pwyllgor i’w hargymell i’r Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (RhGA) diwygiedig i’w hystyried, cyn ceisio cymeradwyaeth yn y Cyngor Sir i gyflawni rhwymedigaethau statudol.

 

Adolygwyd y RhGA yn 2017 i adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a phrosesau. Ni chodwyd unrhyw bryderon pan adroddwyd hwy i’r Pwyllgor Archwilio yn Nhachwedd 2017. Roedd y newidiadau’n cynnwys cynnydd arfaethedig yn y trothwy trosglwyddiadau i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i Brif Swyddogion wrth gynnal rheolaeth ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai’r adroddiad nodi y bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn ogystal â’r Cabinet. Ar dudalen 13 o’r RhGA, awgrymodd y dylid cysylltu paragraffau (g) a (j). Cytunodd y Rheolwr Cyllid i ymgorffori’r newidiadau a ganlyn:                     

 

·         Ar dudalen 13, paragraff (g) – i gadarnhau union drothwy ‘gorwariant sylweddol’ (‘significant overspend’).

·         Ar dudalen 17, adran 3.5 - y frawddeg gyntaf i egluro bod lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn i’w penderfynu gan ‘Y Cyngor’ yn hytrach na’r ‘awdurdod lleol’ i nodi mai swyddogaeth y Cyngor yw hyn ac nid y Cabinet.                       

 

Mewn ymateb i ymholiadau, eglurwyd bod paragraff (j) ar dudalen 27 yn cyfeirio at y broses geisiadau wedi eu selio gystadleuol (‘competitive sealed bidding proses’) ar gyfer eitemau'r Cyngor sydd dros ben. Cytunwyd y byddai’r geiriad hwn yn cymryd lle’r disgrifiad ‘secret and competitive basis’ a geir ar hyn o bryd yn y RhGA.                 

 

Yng nghyswllt yr un mater, rhoddodd y Cynghorydd Carver enghreifftiau o stoc, er yn cael eu hystyried yn ‘sgrap’, sydd efallai’n parhau i ddal rhyw werth. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai geiriad ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y paragraff i nodi y dylai swyddogion barhau i geisio cyflawni’r swm gwerth mwyaf ar gyfer y Cyngor, pa ddull gwerthu bynnag a oedd yn briodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley bod brawddeg gyntaf yr adran ar gynnal cronfeydd wrth gefn yn adlewyrchu prosesau nad oeddynt yn gyson â’i gilydd. Eglurodd y Rheolwr Cyllid, fel rhan o’r protocol, bod lefelau’r cronfeydd wrth gefn wedi’u gosod ar lefel ddarbodus ac yn cael eu hegluro mewn adroddiadau monitro cyllideb. Cyfeiriodd at her ddiweddar gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i sefydlu p’un a ellid dod â chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi nad oeddynt wedi’u defnyddio yn ôl i mewn i’r gyllideb i’w defnyddio.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at gyfrifoldebau’r Swyddog Adran 151 o ran pennu digonolrwydd lefelau cronfeydd wrth gefn a dyletswydd y Cyngor i gymeradwyo’r gyllideb gyffredinol pryd yr oedd manylion cronfeydd wrth gefn wedi bod yn destun craffu eisoes.

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Woolley, cytunodd y Rheolwr Cyllid i ddarparu ymateb i’r Pwyllgor ar gyfanswm asedau’r Cyngor a’r dyddiad prisio.                                      

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau a nodwyd, bod y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn cael eu cadarnhau a’u hargymell i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir eu cymeradwyo.