Mater - cyfarfodydd

Financial Forecast and Stage Two of the Budget 2018/19

Cyfarfod: 12/12/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 76)

76 Rhagolwg Ariannol a Cham Dau y Gyllideb 2018/19 pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Ystyried Dewisiadau Cyllideb Ail Gam ar gyfer Cyllideb 2018/19 Cronfa'r Cyngor ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Rhagolwg Ariannol a Cham Dau Cyllideb 2018/19 a gyflwynwyd ger bron cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 6 Rhagfyr a chyfarfod arbennig y Cabinet y bore hwnnw.  Roedd yr Aelodau eisoes wedi cael copi o’r argymhellion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol arbennig, a ardystiwyd gan y Cabinet y bore hwnnw.

 

Holodd y Cynghorydd Heesom pam fod gofyn i Aelodau gymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y cyfarfod hwn.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yn gofyn i Aelodau gymeradwyo cofnodion, ac yn y cyfarfod craffu'r wythnos flaenorol, hysbyswyd yr Aelodau oedd yn bresennol y byddai canlyniad y cyfarfod hwnnw yn cael ei gyfleu i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor Sir.  Drafft oedd yr argymhellion a chynnwys y cofnodion.  Nododd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw, eu bod yn wir yn gofnod teg o’r hyn a gytunwyd.  Yn dilyn sylw pellach gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn adrodd yn gywir yr hyn a benderfynodd y Cabinet y bore hwnnw, gan roi ystyriaeth i benderfyniadau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. 

 

Bu i’r Cabinet gael a derbyn yn llawn y chwe argymhelliad drafft gan Adnoddau Corfforaethol, sef:

 

1.    Ar ôl ystyried dewisiadau Cam 2 y gyllideb, bod yr adroddiad a’r cynigion yn cael eu nodi;

 

2.    Bod y camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni yn cael eu nodi;

 

3.    Bod y llythyr i’r Ysgrifenyddion Cabinet Cyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd, yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau;

 

4.    Bod manylion llawn asesiadau o risg, effeithiau a chanlyniadau pob un o gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;

 

5.    Bod Pwyllgor yr Amgylchedd a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu hymgynnull ym mis Ionawr er mwyn adolygu’n fanwl y ffioedd parcio a chynigion cyllidebau ysgolion yn y drefn honno, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol; a

 

6.    Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

Roedd y Cabinet wedi nodi ac argymell Cam Dau'r gyllideb i’r Cyngor Sir ar yr amod y byddai'r cynigion penodol ar gyllidebau ysgolion a ffioedd parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol ym mis Ionawr i’w hadolygu’n llawn, er mwyn iddynt hwy gael adrodd yn ôl cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar y ddau faes hynny.  Nododd y Cabinet hefyd y camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn cymeradwyo Cam Un cynigion y gyllideb, bod y bwlch wedi lleihau i £10.5m, ac eithrio effaith unrhyw risgiau a phwysau yn ystod y flwyddyn allai barhau i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd.  Cafodd Cam Dau cynigion y gyllideb eu categoreiddio yn ôl lefel uchel neu lefel isel  ...  view the full Cofnodion text for item 76