Mater - cyfarfodydd

Appointment of Independent Member

Cyfarfod: 04/12/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 37)

37 Penodiad Aelod Annibynnol pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Penodi aelod annibynnol (cyfetholedig) i swydd wag ar y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i gytuno ar benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor, yn dilyn y gweithgaredd recriwtio a wnaethpwyd ar y cyd ag Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (a oedd hefyd eisiau llenwi dwy swydd wag).

 

Rhoddodd ddiweddariad ar ganlyniad y cyfweliadau a gynhaliwyd ar ôl cyhoeddi’r agenda hon. Cyflwynwyd wyth cais ac o’r wyth hynny, cafodd pump ohonynt eu rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad ac wedi hynny argymhellwyd y dylid penodi Julia Hughes i’r Pwyllgor. Dosbarthwyd disgrifiad cryno o Julia, yn cynnwys gwybodaeth am ei chefndir a’i phrofiadau, o amgylch y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at gyfansoddiad y cyd-banel ac eglurodd fod cynnwys y Cynghorydd Wolley (yn ei rôl fel Cynghorydd Tref), yn lle Jonathan Duggan-Keen gan nad oedd ar gael, wedi cwrdd â’r gofynion deddfwriaethol. Byddai’r tymor swydd a argymhellir ar gyfer yr aelod newydd yn cyd-fynd â thymor swydd aelod annibynnol arall ac felly’n lleihau costau recriwtio.

 

Mewn ymateb i’r ymholiadau, darparodd y Prif Swyddog wybodaeth am y broses recriwtio. Penderfynwyd bod y gofyniad statudol ar gyfer hysbysebion ym mhapurau lleol ardal yr Awdurdod yn rhy ddrud, er y byddai’r gost hon wedi’i rhannu gyda’r Awdurdod Tân ac Achub ar yr achlysur hwn. Yn ogystal, y dull hwn oedd y lleiaf llwyddiannus o ran denu ceisiadau, o’i gymharu â hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor. Ni lwyddodd ein hymdrechion i archwilio cyfleoedd hysbysebu ar y cyd â chynghorau eraill i ennyn diddordeb.

 

Cymeradwywyd penodiad Julia Hughes gan y Pwyllgor ac awgrymwyd y dylid anfon llythyr i ddiolch i Noelle Jones, yr 'unigolyn lleyg’ ar y panel.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y dylid argymell y Cyngor i benodi Julia Hughes i’r Pwyllgor Safonau hyd at ddiwedd Mai 2022; ac

 

 (b)      Y dylid diolch i Noelle Jones am ei chyfranogiad.