Mater - cyfarfodydd

Welsh Public Library Standards: Review of Performance 2016/17

Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 29)

29 Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru: Adolygiad Perfformiad 2016/17 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        I amlinellu cynnydd darparu gwasanaeth llyfrgell yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad ar adolygiad o berfformiad gwasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint yn 2016/17 yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

 

Rhoddodd Kate Leonard, Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd drosolwg o berfformiad a oedd wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol.  Rhoddodd grynodeb o gyflawniadau ar Hawliau Craidd a Dangosyddion Ansawdd, a rhoddodd eglurhad ar y rhai nad oedd wedi cael eu diwallu'n llawn, fel y manylir yn yr adroddiad.  Bu ffocws parhaus ar wella perfformiad a byddai llenwi swyddi gwag yn cael effaith gadarnhaol ar y flwyddyn ganlynol.  Fe soniwyd yn yr Adroddiad Asesiad Blynyddol am gyflawniadau’r gwasanaeth wrth gynnal perfformiad yn ystod cyfnod o newid, ond fe soniodd hefyd am bwysigrwydd buddsoddiad parhaus.  Dywedodd y Rheolwr y byddai’r rhagolygon o ostyngiadau pellach yn cyflwyno risg yng ngweithrediad a gwydnwch y gwasanaeth.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Dunbar am lwyddiant llyfrgell Glannau Dyfrdwy a darparu Wi-Fi mewn llyfrgelloedd.

 

Gan ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad bod dau reolwr llyfrgell newydd wedi’u penodi a bod ailstrwythuro’r tîm yn gynharach yn y flwyddyn wedi creu haen newydd i gefnogi datblygiad gyrfaol. O ran cyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol, cafwyd eglurhad bod gostyngiad parhaol o 10% o gyllid cyffredinol gan y Cyngor yn rhan o’r cynllun busnes presennol.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Gay am ddyfodol gwasanaeth y llyfrgell deithiol, dywedodd y Rheolwr y byddai cerbyd newydd ar gael i'w ddefnyddio'n fuan. Cafodd aelodau eu hannog i gysylltu â rheolwr y llyfrgell os oedd ganddynt unrhyw ofynion penodol ar gyfer gwasanaeth y llyfrgell deithiol.

 

Cynigiodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn croesawu bod perfformiad wedi cael ei gynnal, a’r cynnydd o ddarparu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu bod perfformiad wedi cael ei gynnal, a’r cynnydd o ddarparu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.