Mater - cyfarfodydd

Regional School Effectiveness and Improvement Service (GwE)

Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 7)

7 Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gael diweddariad ar gynnydd o ran  datblygu gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, a diweddariad ar sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) y diweddariad gan GwE yn cynnwys adroddiad blynyddol 2017/18 yn nodi cryfderau’r safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth yn ogystal â meysydd i wella a datblygu.

 

Croesawodd y Pwyllgor gynrychiolwyr GwE, Arwyn Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Alwyn Jones, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, a draddododd gyflwyniad yn trafod y canlynol:

 

·         Taith Diwygiadau Cymru

·         Atebolrwydd

·         Tuag at system addysg sy’n hunan-wella

·         Llwyddiannau

·         Heriau

 

Yn ystod y cyflwyniad, rhannwyd gwybodaeth am waith paratoi ar gyfer y diwygiad addysg o ran datblygu cwricwlwm newydd gyda ffocws lleol yn hytrach na chenedlaethol a newid yn y diwylliant er mwyn cynorthwyo yn hytrach na herio ysgolion. Gwnaed cynnig i gyflwyno gweithdy i Aelodau yn yr hydref i egluro’r camau nesaf er mwyn eu helpu i ddeall y newidiadau sydd ar y gorwel.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cunningham ynghylch trefniadau llywodraethu, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod atebolrwydd rhanbarthol a lleol ar ffurf cydbwyllgor GwE (yn cynnwys cynrychiolwyr gan y chwe awdurdod lleol) a chyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr GwE a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Amlygodd bwysigrwydd sianelau cyfathrebu effeithiol er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn derbyn cymorth priodol a chyfeiriodd at gynlluniau busnes yn gosod manylion y cynnig ar gyfer pob awdurdod lleol yn y rhanbarth.

 

Holodd Rebecca Stark am amserlenni i ddangos sut y deuai wyth elfen y diwygiad addysg ynghyd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y cerrig milltir wedi eu pennu ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf ac y defnyddid dull graddol i baratoi ar gyfer y diwygiadau, mewn trafodaeth â Llywodraeth Cymru (LlC). Byddai’r amserlenni’n cael eu rhannu fesul clwstwr gyda’r bwriad bod pob partner yn cyrraedd yr un cam yr un pryd. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro y gellid rhoi’r amserlenni wedi eu cyhoeddi gan LlC ar gael i Aelodau a rhoddodd eglurdeb ynghylch amserlenni eraill ym maes gwaith yr awdurdodau lleol. Yn ymateb i bryderon ynghylch adnoddau ar gael yn fuan, cydnabu’r Rheolwr Gyfarwyddwr fod rhai deunyddiau’n araf deg yn dod ar gael ac y byddai’r paratoadau’n helpu i wneud y system rywfaint yn fwy cyson. Dywedodd Rebecca Stark am yr angen am arian i helpu ysgolion i weithredu’r newidiadau, yn arbennig yn y sector uwchradd. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod sylwadau’n cael eu cyflwyno i LlC yn gofyn am arian i gefnogi ysgolion i ddod yn barod am y diwygiad a chyfeiriodd at y cynnydd posibl yn nifer y dyddiau hyfforddi ar gyfer athrawon er mwyn helpu ysgolion. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro o blaid y dull hwn oherwydd bod ysgolion eisoes wedi ymdopi â, a thrin pwysau ariannol a dywedodd bod rhywfaint o obaith y ceid arian gan Lywodraeth y DU. 

 

Bu i Lynn Bartlett groesawu’r ffocws ar gymorth i ysgolion ond dywedodd fod angen arian i gynorthwyo cydweithio rhwng ysgolion. Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am bwysigrwydd cyfeirio arian at glystyrau i roi’r gallu i’r ysgolion hynny wneud eu penderfyniadau allweddol eu hunain. Yn ymateb i sylwadau eraill, siaradodd am ragor o ffocws ar les fel rhan  ...  view the full Cofnodion text for item 7