Mater - cyfarfodydd

North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2018/27

Cyfarfod: 27/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 13)

13 Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (Newydd) 2018/27 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar waith y Bwrdd Tai Newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Rhaglenni Tai adroddiad ar Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2018/27 a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai.    Roedd yr adroddiad yn manylu cynnydd ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a’r broses cymeradwyo benthyca newydd i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer datblygu neu brynu tai fforddiadwy.    Roedd y Cynllun Busnes – oedd wedi’i gynnwys fel atodiad cyfrinachol ar y rhaglen – yn manylu tai i'w datblygu drwy'r rhaglen SHARP, eiddo Adran 106 ac eiddo posibl drwy fenthyca yn erbyn asedau presennol.

 

Fel Dirprwy Gadeirydd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, rhoddodd y Cynghorydd Sean Bibby drosolwg o‘r prif bwyntiau.  Cyfeiriodd at y gofynion gwerthuso ariannol a soniodd am berthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng partneriaid i hwyluso darpariaeth tai o ansawdd uchel am rent fforddiadwy.    Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwasanaeth gosodiadau a reolir sy’n cyfrannu at nod corfforaethol y Cyngor ar ddarpariaeth tai fforddiadwy yn y sector preifat.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y dull ar gyfer rheoli gosodiadau a dywedodd nad oedd angen gwneud gwaith atgyweirio mawr i eiddo hyd yma.    Ychwanegodd bod yr arfer o gynnal arolygiadau chwarterol wedi helpu i nodi unrhyw faterion yn ystod camau cynnar. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge am effeithiolrwydd y rhaglen rheoli dwyster uchel gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i ddelio gyda materion tenantiaeth.

 

Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm am eu cyflawniadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn bleser nodi fforddiadwyedd lefelau rhent a osodwyd gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru ac y gallai rheoliadau newydd ar ffioedd gosod fod o fudd. 

 

Canmolodd y Cynghorydd Ron Davies y bartneriaeth gyda’r contractwyr a benodwyd, Wates, oedd yn darparu gwasanaeth ardderchog. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Palmer a fyddai’r Pwyllgor yn gallu cael ei gynrychioli ar Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyfansoddiad y Bwrdd oedd yn cynnwys cynrychiolaeth trawsbleidiol o bump Aelod. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y cyn Brif Swyddog (Cymuned a Menter) fel prif ysgogydd sefydlu’r cwmni newydd, ynghyd â’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm.   Siaradodd am ragolygon twf y cwmni yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2018/27 yn cael ei nodi.