Mater - cyfarfodydd
Housing Revenue Account (HRA) 2018-19
Cyfarfod: 15/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 45)
45 Cyfrif Refeniw Tai 2018-19 PDF 98 KB
Pwrpas: Ystyried y cynigion ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2018-19.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - HRA 30 year business plan Appendix A(i), eitem 45 PDF 702 KB
- Enc. 2 - 30 year HRA business plan summary option 1, eitem 45 PDF 89 KB
- Enc. 3 - 30 year HRA business plan summary option 2, eitem 45 PDF 88 KB
- Enc. 4 - Capital Programme 2018-19, eitem 45 PDF 74 KB
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried Cyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.
Rhoddodd Rheolwr Asedau Tai a’r Cyfrifydd gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:
· Cyflawniadau 2017/18
o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)
o Darpariaeth tai Cyngor
· Cynllun busnes 30 mlynedd
· Cyllideb 2018/19
o Incwm
o Arbedion effeithlonrwydd
o Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru
· Gweithgarwch yn y dyfodol
Fel rhan o’r cyflwyniad, dangoswyd ffotograffau a oedd yn dangos y cyflawniad ar waith mewnol, gwaith allanol a gwaith amgylcheddol yn rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru.
Croesawodd Cynghorydd Shotton gynnydd ar Safon Ansawdd Tai Cymru a chanmolodd ymateb prydlon y Cyngor o ran rhoi sicrwydd i denantiaid am dri bloc fflatiau uchel y sir yn dilyn y digwyddiad yn Nh?r Grenfell. Roedd yr adeiladau yn y Fflint yn dri o ddim ond saith yng Nghymru lle roedd systemau chwistrellu mewnol eisoes wedi’u gosod ac roedd trefn archwilio diogelwch y Cyngor wedi bodloni safonau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Siaradodd Cynghorydd Dolphin am yr angen i gynnwys parcio digonol mewn datblygiadau newydd i ddiwallu anghenion preswylwyr gyda mwy nag un cerbyd. Eglurodd Swyddogion, fel rhan o’r rhaglen amgylcheddol, roedd safleoedd fel plotiau garejys nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu nodi i drosi yn lleoedd parcio. Gan ymateb i gwestiynau pellach, roedd gosodiadau ystafelloedd gwlyb yn berthnasol yn bennaf i lety gwarchod, fodd bynnag roedd hyblygrwydd yn y rhaglen i wneud darpariaeth ar gyfer addasiadau’r dyfodol i gefnogi tenantiaethau oes. Cytunodd y Rheolwr Asedau Tai i roi gwybod i Aelodau lleol am asesiadau ‘ar droed’ yn eu wardiau i’w galluogi i gyfranogi, pe baent am wneud hynny.
Yn ystod trafodaethau am renti, dywedodd Cynghorydd Dolphin ei bod yn bwysig i denantiaid fod yn ymwybodol o opsiynau talu. Eglurwyd bod rhenti targed yn berthnasol i 17% o denantiaid y Cyngor a bod y cynnig gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor i gyfyngu ar gynnydd y rhent i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr o ganlyniad i bryderon am fforddiadwyedd yn yr hinsawdd bresennol. Ni fyddai’r Cyngor yn cael unrhyw gosbau wrth weithredu cynnydd is na’r hyn a argymhellir gan bolisi rhenti’r Llywodraeth.
Dywedwyd wrth Aelodau y byddai’r rhaglen y gofynnwyd amdani ar gyfer gwaith a gynlluniwyd ar gyfer pob ward yn cael ei ddatblygu gan Sean O’Donnell, yn dilyn ymadawiad y Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf.
Rhoddodd Cynghorydd Hardcastle ganmoliaeth i’r gwelliannau yn y gwasanaeth Tai dros flynyddoedd diweddar. Gan ymateb i ymholiadau, eglurodd swyddogion y dull o ran ailymweld ag eiddo lle nad oedd gwaith wedi’i gwblhau oherwydd gwrthod tenantiaid neu ddiffyg mynediad. O ran taliadau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau golchdy, byddai swyddogion yn ymgysylltu â thenantiaid mewn llety â galw isel am wasanaethau i bennu’r canlyniad cywir. Cytunodd y Cyfrifydd i ymateb ar wahân i ddarparu nifer y tenantiaid a aeth i’r llys am beidio talu rhenti.
Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Palmer, eglurodd y Rheolwr Asedau Tai fod gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei lywio gan yr ... view the full Cofnodion text for item 45