Mater - cyfarfodydd

Funding and Flight Path Update

Cyfarfod: 29/11/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 98)

98 Diweddariad Cyllid a Llwybrau Cyrraedd Targed pdf icon PDF 107 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd y sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

             

            Fe wnaeth Mr Middleman grynhoi elfennau sylfaenol o gyllido cynllun pensiwn:-

 

·         Mae’r buddion (h.y. y rhwymedigaethau), yn llifoedd arian sy’n gysylltiedig â chwyddiant i bob pwrpas, yn daladwy dros gyfnod hir iawn o amser.  Mae hyn yn golygu bod y lefel o chwyddiant yn ffactor mawr yn y gost e.e. chwyddiant uwch = rhwymedigaeth uwch = cost uwch.

 

·         Rydych yn cyllido’r buddion a dalwyd drwy falans o enillion ar fuddsoddiad (yn erbyn chwyddiant) a enillwyd a chyfraniadau a dalwyd e.e. po uchaf yw'r enillion yn erbyn chwyddiant a enillwyd dros y tymor hir, po leiaf yw'r cyfraniadau sy'n ofynnol ac i'r gwrthwyneb.

 

             Yn ei hanfod, mae’r strategaeth Llwybr Hedfan yn rhoi mwy o sicrwydd i enillion (dros chwyddiant) a hefyd i ddarparu amddiffyniad yn erbyn newidiadau mewn lefelau chwyddiant disgwyliedig. Yn ganolog i’r strategaeth “mantoli”, sydd yn ei hanfod yn golygu buddsoddi mewn asedau sy’n “cyfateb” y newidiadau mewn rhwymedigaethau yn llawer agosach - gan felly ddarparu mwy o sefydlogrwydd yn lefel y diffyg.  Mae hyn yn arwain at fwy o sicrwydd/sefydlogrwydd o gyfraniadau ar gyfer gweithwyr sy’n amcan allweddol y strategol.

 

            Y berthynas allweddol yw’r enillion ar fuddsoddiad yn erbyn chwyddiant, ac os yw’r chwyddiant yn cynyddu rydych am i’r enillion ar eich buddsoddiad gynyddu hefyd, o o leiaf yr un swm, i gadw costau’n sefydlog.

 

            Ar hyn o bryd, mae’r lefelau mantoli yn dal yn 20% mewn perthynas â'r gyfradd log a 40% mewn perthynas ag amddiffyn chwyddiant (gyda 100% wedi'i fantoli'n llawn). Roedd y lefel ariannu o flaen y targed yn sylweddol ar 91% (12% ar y blaen) 31 Hydref 2017.

             Ymhellach at hynny, mae’n bwysig gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithlon/amserol o ran y strwythur ac ariannu’r strategaeth.  Mae hyn yn golygu bod amseru unrhyw newidiadau a lefel y farchnad rydych yn gwneud hyn yn bwysig, gan eich bod chi eisiau gwneud hyn yn y dull mwyaf cost effeithiol. Mae’r esiampl o ailstrwythuro'r mandad mantoli yn 2017 yn esiampl o hyn, lle mae disgwyl i hyn gyflawni enillion o £36.5m dros y tymor hir.  

 

            Mae’r gwaith manwl yn cael ei ddirprwyo i swyddogion ac yn cael ei weithredu ar y cyngor a roddwyd i’r Ymgynghorydd Buddsoddi ac Actiwari drwy’r Gr?p Rheoli Risg a Chyllido (FRMG).  Y rhan nesaf o hyn yw ail-ymweld â’r elfen diogelu ecwiti o’r strategaeth, cyn Ebrill 2018, pan fydd y contract cyfredol yn dod i ben.  Bydd y canlyniad yn cael ei adrodd gerbron pwyllgor y dyfodol.

Gan ystyried yr uchod, mae wedi bod yn strategaeth lwyddiannus hyd yn hyn yn erbyn cost y llywodraethu sy’n ei amgylchynu. Ers ei ddechreuad yn 2014, mae wedi lleihau’r diffyg o oddeutu c£140m, gyda phopeth arall yn ddigyfnewid.

Roedd y Cynghorydd Llewelyn-Jones wedi codi cwestiwn yn flaenorol, ynghylch pam fod y costau mor sensitif i newidiadau mewn enillion ar fuddsoddiad yn y dyfodol, fel y caiff ei fesur gan gyfradd disgownt e.e. byddai gostyngiad o 0.25% p.a. mewn enillion ar fuddsoddiad yn lleihau'r lefel ariannu o 4% ac yn cynyddu'r diffyg o £91m.  ...  view the full Cofnodion text for item 98