Mater - cyfarfodydd

Investment and Funding Update

Cyfarfod: 29/11/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 95)

95 Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol pdf icon PDF 95 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mrs Fielder yr adran hon; nododd fod y Gronfa wedi cael tri chais ychwanegol gan reolwyr i uwchlwytho dogfennaeth mewn perthynas â MIFID II, ond y disgwyliad yw y bydd pob dewis i fanteisio ar y cynllun yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiad cau o 3 Ionawr.

 

            Crynhowyd y pwyntiau allweddol gan Mrs Fielder yn yr adroddiad, a thynnodd sylw at y ffaith nad oedd unrhyw faterion gyda gofynion hylifedd i dalu budd-daliadau, a chaiff ei fonitro’n ofalus.

            Fe holwyd Mrs Fielder gan Mr Hibbert a fyddai'n bosibl cael dehongliad graffigol o'r symudiadau arian parod, mewn perthynas â'r arian parod sy'n cael ei ddal.

            Tynnodd Mrs Fielder sylw at dudalen 61 a oedd yn cynnwys manylion o’r monitro a’r rhagamcaniadau 3 blynedd ar gyfer llif arian. Nodwyd bod y llif arian ar osgo ar gyfer 2017, gan fod rhai gweithwyr wedi talu 3 blynedd o daliadau cyfraniad diffyg yn Ebrill 2017.

 

            Nodwyd hefyd bod Mr Hibbert a Mrs Fielder wedi mynd i seminar ar dryloywder cost.  Roedd Mr Hibbert yn ddiolchgar am y cyfle i roi mewnbwn ar hyn.

            Trafodwyd y mater o fuddsoddiad isadeiledd, ac yn enwedig y cyfleoedd yng Nghymru.   Tynnodd Mr Everett sylw at y drafodaeth ar draws Gogledd Cymru a bod angen trafod y cyfleoedd gyda’r Cronfeydd Pensiwn.   Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae’r Gronfa wedi bod yn chwilio am gyfleoedd ers peth amser, yn amodol ar achos busnes cryf ar gyfer y buddsoddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad, a’i nodi, yn cynnwys y cyfrifoldebau dirprwyedig a’r cynnydd.