Mater - cyfarfodydd
Pension Administration/Communications Update
Cyfarfod: 29/11/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 94)
94 Diweddariad ar Weinyddu Pensiynau/Cyfathrebu PDF 107 KB
Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddol a chyfathrebu Cronfa Bensiynau Clwyd, gan gynnwys, gwefan newydd Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pension Administration/Communications Update, eitem 94 PDF 66 KB
- Enc. 2 for Pension Administration/Communications Update, eitem 94 PDF 49 KB
- Enc. 3 for Pension Administration/Communications Update, eitem 94 PDF 42 KB
- Enc. 4 for Pension Administration/Communications Update, eitem 94 PDF 55 KB
- Enc. 5 for Pension Administration/Communications Update, eitem 94 PDF 39 KB
Cofnodion:
Cyfeiriodd Mrs Burnham at dudalen 105, a thynnodd sylw at y ffaith y bu dros 2,000 o dasgau gweinyddu newydd yng Ngorffennaf a Medi/Hydref 2017. Nododd hefyd fod cynnydd o dros 100 achos o fis Medi tan fis Hydref (h.y. o 2,469 i 2,578). Roedd hyn oherwydd bod staff y Cyngor yn gweithio’n allanol ar gyfer trefniadau newydd, ac er mai digwyddiad untro oedd hyn, yn dangos y cynnydd sydyn ychwanegol yn y gwaith sy’n ofynnol.
Cyfeiriodd Mrs Burnham hefyd at dudalen 107 a nododd bod y canrannau KPI o ran trefniadau cyfreithiol TPR wedi gwella, ond mae rhagor o welliannau i’w gwneud o hyd. Esboniodd hefyd y byddai’n gweithredu cynlluniau hyfforddi i dynnu sylw at feysydd y mae angen i’r Gronfa roi blaenoriaeth iddynt e.e. o ran achosion marwolaeth. Dywedodd Mrs McWilliam y bydd siartiau’n cael eu rhoi, yn hytrach na thablau, yn y dyfodol, gan ei fod yn haws canfod tueddiadau o'r rhain.
Dangosodd Mr Lloyd y wefan newydd a’r Hunan-wasanaeth Aelodau (MSS), lle gall aelodau ennill dealltwriaeth/gwybodaeth am eu buddion LGPS yn y Gronfa a diweddaru eu manylion ar-lein. Mae’r wefan wedi’i gwneud mor syml â phosibl i’w gwneud yn haws i chwilio drwyddi a’i deall.
Rhoddodd Mr Lloyd wybod i’r Pwyllgor fod y wefan yn cynnwys meysydd amrywiol o ddiddordeb, fel y maes Llywodraethu, sy’n cynnwys manylion ynghylch sut mae’r Gronfa’n gweithredu, ac aelodau'r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn. Nododd fod y wefan hefyd yn tynnu sylw at y newidiadau i’r Cynllun; ac yn cynnwys canllawiau i aelodau ac ymddeol drwyddi draw.
Rhoddwyd sylwadau cyffredinol fod y wefan yn edrych yn dda ac yn gam cadarnhaol arall ymlaen (ynghyd â’r MSS) o ran sut mae’r Gronfa’n cyfathrebu gydag aelodau.
Holodd Mr Hibbert a oedd yn bosibl gofyn am gael postio dogfennaeth i’w cyfeiriadau cartref ar-lein, mewn sefyllfaoedd lle mae pobl angen copïau papur. Atebodd Mr Lloyd drwy honni, os nad yw pobl eisiau cael dogfennau drwy MSS neu'r wefan, gallent gysylltu â'r Gronfa a gofyn am gael parhau â dogfennaeth bapur.
Holwyd pa wybodaeth ystadegol sydd ar gael yngl?n â defnydd o'r wefan a'r hunanwasanaeth i aelodau. Dywedodd Mr Lloyd ei bod yn bosibl gwirio’r wefan i weld pwy sydd wedi cofrestru, a gallant weld pryd a ble mae rhywun wedi mewngofnodi, ac mae gwybodaeth benodol yngl?n â phwy sydd wedi mynd ar y wefan.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Lloyd am ei gyflwyniad, a'i longyfarch am ddatblygu'r wefan a'r MSS. Dywedodd Mr Everett hefyd ei fod wedi'i galonogi gan y cynnydd yn y meysydd hyn
PENDERFYNWYD:
1. I’r Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.