Mater - cyfarfodydd
Pooling Investments in Wales (PART 2 REPORT)
Cyfarfod: 29/11/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 90)
Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru
Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru a gofyn am gymeradwyaeth i benodi gweithredwr yn dilyn ymarfer caffael.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (90/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (90/3)
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd, yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru, y cytunwyd y dylid argymell penodi Cynigydd 1 ar gyfer bob Pwyllgor Cronfa Bensiwn, ac y cytunwyd ymhellach na fyddai hunaniaeth Cynigydd 1 yn cael ei ddatgelu i'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd ar y cam hwn.
Rhoddodd Mr Latham gefndir o’r broses benodi wrth gadarnhau fod y penderfyniadau ar gyfer y strategaeth buddsoddi Cronfeydd yn aros gyda’r Pwyllgor. Manylodd Mrs Fielder ynghylch y broses gaffael gyffredinol yn arwain at yr argymhelliad i benodi Cynigydd 1.
Cafodd y Pwyllgor drafodaeth fanwl ynghylch y broses a phenodi Cynigydd 1, cyn y pleidleisiodd 7 o blaid, ac 1 yn erbyn y penodiad.
Cafodd y Pwyllgor wybod wedyn mai Link Fund Solutions oedd Cynigydd 1.
PENDERFYNWYD:
1. Cytunodd y Pwyllgor i benodi Cynigydd 1 fel y cynigydd a ffafrir ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac
2. Yn destun cwblhad o’r cyfnod segur, a chwblhau’r Cytundeb Gweithredwr, i benodi Cynigydd 1 fel Gweithredwr o dan y Cytundeb Gweithredwr.
3. Nododd a thrafododd y Pwyllgor Adroddiad Cynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.