Mater - cyfarfodydd

Provision of telephones to Members

Cyfarfod: 31/01/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 20)

20 Darparu ffonau i Aelodau pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        I ystyried arolwg diweddar o Awdurdodau yng Nghymru yngl?n â darparu ffonau i Aelodau a phenderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried darparu ffonau i bob Aelod etholedig, er mwyn cydymffurfio â Phenderfyniad 6 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA). Roedd y Cyngor yn 2015 wedi penderfynu gwrthwynebu’r penderfyniad oherwydd goblygiadau o ran cost, a chodwyd y mater hwn eto yn ystod ymweliad diweddar gan PACGA. Daeth arolwg o’r 22 awdurdod yng Nghymru i’r casgliad, o’r mwyafrif a oedd wedi ymateb, dim ond traean ohonynt oedd yn cynnig rhyw fath o ddarpariaeth ffonau i’w Haelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton nad oedd darparu ffonau yn yr hinsawdd ariannol bresennol yn ddichonadwy. Cafodd ei gynnig y dylai’r Cyngor barhau i beidio â chydymffurfio â Phenderfyniad 6 ei eilio.

 

Rhannwyd y farn hon gan y Cynghorydd Healey a awgrymodd Hysbysiad Cynnig i ddangos cryfder y teimlad yn erbyn penderfyniad PACGA.        

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ar Benderfyniad 6 a oedd yn ceisio sicrhau bod digon o gymorth ar gael i helpu Aelodau etholedig yn eu rôl.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers, a oedd unrhyw oblygiadau i beidio â chydymffurfio a ph’un a ellid eu goresgyn drwy gyflwyno darpariaeth ‘optio allan’. Eglurodd y swyddogion na fyddai unrhyw sancsiwn yn cael ei orfodi ac y gallai’r Pwyllgor ystyried cyflwyno cynllun dewisol, a oedd hefyd yn berthnasol i dreuliau teithio.

 

Roedd y Cynghorwyr Woolley a Dunbar yn cefnogi cadw’r trefniant presennol.          

 

Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd y Prif Swyddog wybodaeth ar y contract ffonau symudol a threfniadau monitro o fewn bob portffolio.                 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod darpariaeth y Cyngor o ran ffonau i Aelodau yn aros fel y mae.