Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2017/18 - Mid Year Monitoring

Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 30)

30 Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yng Nghynllun y Cyngor 2017/18, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ganol blwyddyn. 

 

Yr unig ddangosydd perfformiad oedd â statws coch oedd y ganran o gymalau budd cymunedol mewn contractau caffael newydd o dan £1m.  Roedd y strategaeth hon wedi’i newid i adlewyrchu trothwy is, fel y cymeradwywyd gan y Cabinet fis Hydref, a byddai effaith hyn i’w weld nes ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18.