Mater - cyfarfodydd

Community Review Guidance and Boundary Commission Consultation on Community Reviews

Cyfarfod: 14/11/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 64)

64 Canllawiau Adolygiadau Cymunedau ac Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar Adolygiadau Cymunedau pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:   Cyflwyno Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar Adolygiadau Cymunedol a gwahodd ymateb gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn ceisio barn ar ganllawiau drafft wedi’u diweddaru ar gynnal adolygiadau cymunedau gan brif gynghorau a oedd wedi’u llunio gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canfyddiadau allweddol o'r canllawiau a’r broses ymgynghori a ddeuai i ben ar 21 Rhagfyr 2017. Rhannwyd manylion ar yr adolygiad cymunedau a gynhaliwyd yn Sir y Fflint yn 2013.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd cynigion a argymhellwyd yn flaenorol gan gynghorau tref/cymuned, a fyddai wedi golygu gwahanol ffiniau ar lefel trefi/cymunedau a wardiau, wedi’u gweithredu’n rhan o adolygiad cymunedau diweddaraf y Cyngor Sir.  Roedd y cynigion hyn wedi'u hanfon ymlaen at y Comisiwn Ffiniau gyda chais iddynt gael eu hystyried yn rhan o adolygiad ffiniau wardiau’r Cyngor Sir yn hwyr yn 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi'r sylwadau ar y ddogfen ganllawiau ar gyfer prif gynghorau ar adolygiad cymunedau; ac

 

 (b)      Awdurdodi’r Prif Weithredwr i ymateb ar ran y Cyngor.