Mater - cyfarfodydd
Community Review Guidance and Boundary Commission Consultation on Community Reviews
Cyfarfod: 14/11/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 64)
Pwrpas: Cyflwyno Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar Adolygiadau Cymunedol a gwahodd ymateb gan y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- App 1 - Guidance for Principal Councils, eitem 64 PDF 245 KB
- App 2 - Draft Response, eitem 64 PDF 41 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Canllawiau Adolygiadau Cymunedau ac Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar Adolygiadau Cymunedau
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn ceisio barn ar ganllawiau drafft wedi’u diweddaru ar gynnal adolygiadau cymunedau gan brif gynghorau a oedd wedi’u llunio gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canfyddiadau allweddol o'r canllawiau a’r broses ymgynghori a ddeuai i ben ar 21 Rhagfyr 2017. Rhannwyd manylion ar yr adolygiad cymunedau a gynhaliwyd yn Sir y Fflint yn 2013.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd cynigion a argymhellwyd yn flaenorol gan gynghorau tref/cymuned, a fyddai wedi golygu gwahanol ffiniau ar lefel trefi/cymunedau a wardiau, wedi’u gweithredu’n rhan o adolygiad cymunedau diweddaraf y Cyngor Sir. Roedd y cynigion hyn wedi'u hanfon ymlaen at y Comisiwn Ffiniau gyda chais iddynt gael eu hystyried yn rhan o adolygiad ffiniau wardiau’r Cyngor Sir yn hwyr yn 2018.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r sylwadau ar y ddogfen ganllawiau ar gyfer prif gynghorau ar adolygiad cymunedau; ac
(b) Awdurdodi’r Prif Weithredwr i ymateb ar ran y Cyngor.