Mater - cyfarfodydd

County Hall Civic Campus and Ewloe Office Re-location – Outline Plan

Cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet (eitem 78)

Ail-leoli Swyddfa Ewloe a Champws Dinesig Neuadd y Sir – Cynllun Amlinellol

Dogfennau ychwanegol:

  • Restricted enclosure 2
  • Restricted enclosure 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Ail-Leoli Swyddfa Ewloe a Champws Dinesig Neuadd Y Sir - Cynllun Amlinellol.

 

                        Roedd y Cyngor wedi lleihau maint ei swyddfeydd a oedd yn ofynnol yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, a bellach ond yn meddiannu Camau 1 a 2. Roedd Unity House yn Ewloe yn wag, ac roedd trafodaethau i gwblhau’r hawliad dadfeiliad wedi dod i ben.  Yn y tymor byr i ganolig, roedd opsiwn hyfyw i ystyried symud nifer fawr o staff swyddfa o Neuadd y Sir i Unity House, wrth ystyried y strategaeth tymor hirach ar yr un pryd ar gyfer canolbwynt dinesig.

 

                         Roedd gwaith cynllunio cychwynnol ac achos busnes cysylltiedig yn nodi’r opsiynau tymor byr i ganolig, yn nodi y gellid adleoli i Unity House yn 2018. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagor o fanylion ar gostau a chynlluniau ac yn cynnig dull graddol i symud.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorwyr Thomas ac Attridge, esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn cael ei ystyried yn gyfrinachol, oherwydd natur y wybodaeth fasnachol ynddo, yn enwedig o ran amcangyfrif o werth y tir yn Neuadd y Sir.  Cytunwyd y byddai manylion nad oeddent yn gyfrinachol yn yr adroddiad yn cael eu rhannu cyn gynted â phosibl.

 

                        Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu diwygio a'u cytuno fel yr amlinellwyd isod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod achos busnes yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad manwl gydag Undebau Masnach a'r gweithlu ac ar gyfer ystyriaeth yng nghyllidebau 2018/19; a

 

(b)       Bod cynllun meistr yn cael ei gomisiynu ar gyfer campws Neuadd y Sir, a bod tendrau’n cael eu gwahodd i ddymchwel ar gyfer Camau 3 a 4.