Mater - cyfarfodydd

Digital Print Service

Cyfarfod: 19/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 36)

Gwasanaeth Argraffu Digidol

Pwrpas:   Ystyried cynigion ar gyfer newid y ffordd yr ydym yn darparu'r gwasanaeth argraffu digidol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i geisio barn am newidiadau arfaethedig o ganlyniad i ostyngiad yn y galw am wasanaethau argraffu.  Yn dilyn dadansoddiad manwl o’r gwasanaeth, roedd ymarfer cystadleuol ar y cyd wedi’i gynnal â Chyngor Sir Ddinbych am gontract argraffu newydd.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi trefniadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol trwy newidiadau strwythurol ac ymgynghorwyd â thimau yngl?n â hyn.

 

Darparodd y Prif Swyddog eglurhad ar amrywiaeth o faterion megis cymharu costau ac effeithlonrwydd offer.  Yn ystod trafodaeth am ddigwyddiad blaenorol, cytunodd ddarparu ymateb ar wahân ar y costau dan sylw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r bwriad i benodi cronfa o gyflenwyr ar gontract dwy flynedd a fydd yn sicrhau fod y Cyngor yn derbyn y telerau mwyaf manteisiol yn economaidd ar gyfer ei wasanaeth argraffu lliw ac nid oes ganddo unrhyw sylwadau i’w cyfeirio at y Cabinet; a

 

(b)       Yng ngoleuni’r gostyngiad yn y galw am wasanaethau argraffu, bod y Pwyllgor yn cefnogi'r bwriad i adolygu'r gwasanaeth Argraffu Digidol a strwythur dros dro'r sefydliad fel y dangosir.