Mater - cyfarfodydd

Communities First

Cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 24)

24 Diweddariad Cymunedau yn Gyntaf pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:   I roi’r newyddion diweddaraf am Raglen Cymunedau yn Gyntaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad, gan ddarparu gwybodaeth gefndir i'r Pwyllgor ar sefydliad y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn 2001 i fynd i'r afael â thlodi.  Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) fod y rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Ni fyddai rhaglen gyflogi Cymunedau dros Waith yn cael ei effeithio a byddai’n parhau tan fis Mawrth 2020.

 

            Byddai LlC yn gweithredu dwy raglen newydd o 1 Ebrill 2018 ymlaen:-

·         Y Gronfa Etifeddiaeth, a fydd yn cynnig cyllid ar raddfa fach i Gyrff Cyflenwi Lleol, er mwyn galluogi iddyn nhw barhau i ddarparu gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf effeithiol, am ddwy flynedd arall.

 

·         Byddai’r ail raglen, y rhaglen Cyflogadwyedd, yn rhoi'r seilwaith rheoli i Gyrff Cyflenwi Lleol ar gyfer y rhaglen Cymunedau dros Waith

 

            Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio mai rôl y swyddfeydd yn y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug a Glannau Dyfrdwy oedd dod o hyd i waith i bobl, ac y bu cyflawniad a ffocws sylweddol yn Sir y Fflint, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant.     Rhaglen Fentora LIFT, a oedd yn rhan o Cymunedau'n Gyntaf ac a ariannwyd tan 31 Mawrth 2018. Byddai’r Gronfa Etifeddiaeth yn rhoi rhai opsiynau. 

 

            Amlinellodd y cynigion yn y ffrwd waith cyflogadwyedd yn rhaglen Cynnig Gogledd Cymru, a ddyluniwyd i ddod i hyd i waith i fwy o bobl mewn tlodi:-

 

·         Codi Cyflogaeth Gogledd Cymru

·         Y Banc Sgiliau

·         Rhaglen Gyrfaoedd a Chanllawiau Uwch

·         Rhaglen Bwrsarïau yn y Gweithle, a 

·         Prentisiaethau a lleoliadau gwaith

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd, at yr adroddiad ac yn benodol at bob un o'r mentrau a ddarparwyd a'r ystod o gynlluniau recriwtio a oedd wedi galluogi i bobl gael swydd.  Teimlai bod yr adroddiad ar y cyfan yn tynnu sylw at y berthynas waith dda sydd gan y Cyngor gyda busnesau lleol.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.