Mater - cyfarfodydd

Burial Strategy and Bereavement Services

Cyfarfod: 17/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 35)

35 Strategaeth Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaeth pdf icon PDF 120 KB

Darparu’r Pwyllgor Craffu â gwybodaeth am weithgarwch y Tîm Gwasanaethau Profedigaeth o fewn Strydwedd a Chludiant a chynigion i ymestyn y gwasanaeth i breswylwyr.  Bydd yr adroddiad hefyd yn trafod y capasiti o fewn mynwentydd presennol yn Sir y Fflint a chynigion yn ymwneud â darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad i ddarparu gwybodaeth am weithgarwch y Tîm Gwasanaethau Profedigaeth o fewn Strydwedd a Chludiant a chynigion i ymestyn y gwasanaeth i breswylwyr. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod nifer o heriau a risgiau yn wynebu'r gwasanaeth y bydd yn rhaid mynd i'r afael â nhw ac roedd yr adroddiad yn manylu ar y rhain a'r cynigion i ddelio â hwy.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, ynghylch y polisi diogelwch cofebion, cynnal tiroedd, claddedigaethau iechyd y cyhoedd, gofod claddu, a ffioedd claddu plant. Dywedodd y Prif Swyddog mai cynnal a chadw tir oedd un o'r costau mwyaf oedd gan y gwasanaeth ac, gan gyfeirio at ffyrdd y gallai'r Cyngor leihau costau yn y dyfodol, cynigiwyd bod y Gwasanaeth yn ceisio datblygu polisi o weithio gyda'r Cynghorau Tref a Chymuned a chymunedau lleol trwy sefydlu grwpiau gwirfoddol lleol i wneud gwaith cynnal a chadw yn y mynwentydd. Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton i gefnogi'r awgrym hwn fel ffordd ymlaen. Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas a oedd ystyriaeth wedi cael ei roi i chwistrellu glaswellt i arafu twf mewn mynwentydd. Cytunodd y Prif Swyddog i wneud ymholiadau pellach ynghylch hyn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans a oedd ystyriaeth wedi cael ei roi i sefydlu mynwent newydd yn hytrach nag ymestyn y safleoedd presennol. Dywedodd y Prif Swyddog fod yr holl opsiynau'n cael eu hystyried a bod Tîm Asedau'r Cyngor yn edrych ar safleoedd posibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r newidiadau i'r drefn arolygu a rheoli bresennol ar gyfer cofebion o fewn mynwentydd sy'n eiddo i'r Cyngor;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau i ymchwilio i gytundebau partneriaeth â chymunedau lleol i gynnal a chadw tiroedd ar gyfer mynwentydd a mynwentydd caeedig;

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r trefniadau newydd ar gyfer chwiliadau tai, mewn perthynas â chladdedigaethau Iechyd y Cyhoedd;

 

 (d)      Nodi'r lle presennol sydd ar ôl o fewn mynwentydd sy'n eiddo i'r Cyngor; a

 

 (e)      Bod y pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo mabwysiadu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru i safoni Ffioedd Claddu Plant ar draws Cymru.