Mater - cyfarfodydd
Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19
Cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 20)
20 Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 PDF 142 KB
Pwrpas:Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Social Services Operating Model, eitem 20 PDF 184 KB
- Appendix 2 - Social Services Resilience Statement, eitem 20 PDF 160 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i amlinellu sefyllfa'r rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2018/19 a cheisio barn ar Gam 1 o gynigion cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddai cynigion ar gyfer portffolios eraill yn cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn cyflwyno i’r Cabinet fis Tachwedd/Rhagfyr. Yn rhan o’r dull fesul cam mewn perthynas â’r gyllideb, dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd y diffyg o £11.7 miliwn (a ragwelid ar hyn o bryd) yn cynnwys unrhyw fodelu o ran lefelau Treth y Cyngor.
Nid oedd y Prif Weithredwr yn dymuno dyfalu yngl?n â'r sefyllfa genedlaethol tan y cyhoeddiad ar y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a oedd ar ddod. Ni wyddys a fyddai unrhyw ostyngiad ariannol i'r cyllid yn cynnwys unrhyw ostyngiadau i grantiau penodol a ph’un a fyddai cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol. Roedd yn bwysig parhau i adolygu pwysau ariannol ar y portffolio. Anogwyd yr Aelodau i graffu ar y datganiadau gwytnwch a oedd yn dangos y sefyllfa bresennol o ran risg mewn gwasanaethau.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o'r datganiadau gwytnwch. Roedd lefel risg nifer o feysydd gwasanaeth wedi’i hasesu’n ‘Oren’ ac roedd pwysau yn y sector gofal yn effeithio ar y galw am wasanaethau. Ni fu erioed gymaint o atgyfeiriadau diogelu na phwysau ar dimau rheng flaen.
Darparodd y Rheolwr Cyllid wybodaeth am gamau a gymerwyd i leihau’r pwysau penodol ar bortffolios ynghyd ag effaith newidiadau i’r ddeddfwriaeth a meini prawf cymhwyso. Cyfanswm yr opsiynau effeithlonrwydd ar gyfer y portffolio oedd £0.450 miliwn ac roeddent yn cynnwys cynnydd yn y cap codi tâl am ofal cartref a oedd wedi’i gytuno’n flynyddol gyda Llywodraeth Cymru (LlC).
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid nad oedd y pwysau a oedd yn dod i’r wyneb a adroddwyd wrth y Cabinet yn cynnwys pwysau o ran gofal cymdeithasol, fel lleoli y tu allan i’r sir (tua £0.700 miliwn) a oedd yn destun adolygiad parhaus.
Cwestiynodd y Cynghorydd Hilary McGuill gywirdeb y cynnydd amcanol mewn chwyddiant ac fe ddywedwyd wrthi ei fod wedi’i seilio ar y wybodaeth genedlaethol ddiweddaraf.
Wrth gynorthwyo ag amserlen y gyllideb ar gyfer 2018/19, dywedodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Gorfforaethol a Systemau) y byddai dadansoddiad manwl o’r deilliannau o'r setliad dros dro'n pennu deilliannau a oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Fe soniodd y Prif Weithredwr am yr angen i gynllunio ymlaen llaw er mwyn cyflawni nifer o’r opsiynau effeithlonrwydd. O ran pwysau penodol, er bod ymrwymiad LlC i ddiogelu'r grant Cefnogi Pobl yn cael ei groesawu, roedd pwysau o £0.387 miliwn yn parhau ar wasanaethau craidd nad oeddent yn gymwys i gael cymorth grant. Tri maes i’w trafod oedd: achos cryf i’w wneud dros gwrdd â'r cynnydd yn ffioedd y sector annibynnol yn wladol; refeniw o'r Gronfa Gofal Canolraddol i gael ei neilltuo; ac eithriad o’r cynnydd fesul cam mewn ffioedd gofal canolraddol i gasglu’r swm mwyaf posib’ o incwm yn 2018/19.
Dywedodd y Prif Swyddog ... view the full Cofnodion text for item 20