Mater - cyfarfodydd
Stage 1 Council Fund Revenue Budget 2018/19
Cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 18)
18 Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 PDF 130 KB
Pwrpas: Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Education & Youth Operating Model, eitem 18 PDF 182 KB
- Appendix 2 - Education & Youth Resilience Statement, eitem 18 PDF 155 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 ac ar gynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19. Rhoddodd wybodaeth a chyd-destun cefndirol, gan gynghori bod yr opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid, y pwysau ariannol, a’r amserlen ar gyfer y broses pennu cyllideb wedi’u nodi yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at y Model Gweithredu Addysg ac Ieuenctid, a’r Datganiad Atgyfnerthu a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y rhagolwg ariannol a’r pwysau cenedlaethol, lleol, chwyddiant a’r gweithlu, fel y manylir yn yr adroddiad sy’n benodol i’r portffolio Addysg ac Ieuenctid. Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar y pwysau cyfredol mewn perthynas â Chyllideb Ysgolion.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Patrick Heesom yn ymwneud â darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai’r ddarpariaeth yn y gyllideb sylfaenol, fel y mae’n sefyll, yn cael ei chadw.
Mynegodd Lynn Bartlett bryderon ar effaith lleihau addysg feithrin a gwnaeth sylw ar werth hirdymor addysg yn y blynyddoedd cynnar.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r ymagwedd a gymerir i Gam Un y Gyllideb yn y portffolio Addysg.