Mater - cyfarfodydd
Older People’s Strategy and Ageing Well Plan
Cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 29)
29 Strategaeth Pobl Hyn a Heneiddio'n Dda. PDF 122 KB
I roi diweddariad i Aelodau ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i weithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Heneiddio'n Dda.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones adroddiad i roi diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i weithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Cynllun Heneiddio'n Dda. Gwahoddodd Gydlynydd Strategaeth Pobl H?n i gyflwyno’r adroddiad.
Dywedodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod y Cynllun Heneddio’n Dda yn Sir y Fflint yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu gweithgareddau a fydd o gymorth i bobl h?n gadw rheolaeth o’u bywydau er mwyn iddynt allu cynnal eu hannibyniaeth a pharhau i chwarae rhan weithgar yn y gymuned. Darparodd wybodaeth gefndirol ac adroddodd ar y cynnydd a wnaed o fewn y meysydd blaenoriaeth canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn dangos y cysylltiadau cryf gyda phartneriaid, gan enwi grwpiau cymunedol a grwpiau i bobl h?n fel enghreifftiau, a sefydliadau trydydd sector a oedd yn allweddol wrth fwrw ymlaen â’r gwaith:
· Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed
· Atal Codymau
· Cymunedau Cefnogol i Ddementia
· Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth
· Unigrwydd ac Unigedd
Diolchodd Hilary McGuill i Gydlynydd Strategaeth Pobl H?n am adroddiad ardderchog. Croesawodd y fenter i hyfforddi swyddogion tân Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru i gynnal Asesiadau o Risg Codymau yn ystod gwiriadau diogelwch tân yn y cartref a gofynnodd am gadarnhad i sicrhau bod yr holl Orsafoedd Tân o fewn Sir y Fflint yn gweithredu’r asesiadau hyn. Cadarnhaodd y Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n fod Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy ‘o blaid’ a dywedodd y byddai’n cadarnhau sefyllfa Gorsaf Dân Bwcle yn dilyn y cyfarfod.Wrth sôn am y gwaith Unigrwydd ac Unigedd mewn ardaloedd gwledig o ogledd Sir y Fflint, gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut y byddai taflenni gweithgareddau / gwybodaeth yn cael eu dosbarthu i'r ardaloedd targed.Cadarnhaodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n y byddai taflenni’n cael eu cyflwyno drwy Gynghorau Tref a Chymuned, sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol a gwasanaethau. Dywedodd fod Aelodau etholedig hefyd wedi cynnig dosbarthu taflenni mewn rhai ardaloedd ac roedd yn cydnabod yr angen i ddefnyddio adnoddau presennol.
Soniodd y Cynghorydd Dave Healey am y cyfle i gyfuno dwy dasg a dosbarthu’r taflenni o fewn y newyddlenni sy’n cael eu hanfon allan gan Aelodau a’r posibilrwydd o ddefnyddio Cynghorwyr lleol, sydd â rhwydweithiau sydd wedi’u hen sefydlu, i ddosbarthu taflenni.
Diolchodd y Cynghorydd Hilary McGuill am yr hyfforddiant ‘Cyfeillion Dementia’ a oedd wedi’i ddarparu i Sgowtiaid Mynydd Isa, a oedd yn arddangos ymagwedd gadarnhaol tuag at gymunedau cyfeillgar i ddementia ar draws ystod eang o oedrannau. Gwnaeth sylw ar gynlluniau’r Awdurdod i godi treth busnes o 20% ar sefydliadau gwirfoddol a mynegodd bryder y gallai hyn arwain at orfod cau clybiau sgowtiaid a grwpiau eraill o fewn cymunedau lleol.
Bu i’r Cynghorydd Dave Mackie gydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem o unigrwydd ac unigedd ac fe groesawodd y mentrau 'Datrysiadau Dementia’. Pwysleisiodd fod unigrwydd yn broblem ddifrifol yn enwedig ymysg yr henoed ac awgrymodd efallai nad oedd rhai unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn ymweld â Chaffis ... view the full Cofnodion text for item 29