Mater - cyfarfodydd

Consultation outcomes to the proposed conditions of the Draft Dog Control Public Spaces Protection Order (PSPO)

Cyfarfod: 19/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 24)

24 Canlyniadau'r ymgynghoriad i amodau arfaethedig y Gorchymyn Drafft Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:   Adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch amodau arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n’.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar amodau arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n yn Sir y Fflint sy’n cwmpasu rheoli c?n a baw c?n, a fyddai’n disodli’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fanylion am yr ymgynghoriad a chrynodeb o’r ymatebion, a oedd yn dangos cefnogaeth gref dros yr amodau arfaethedig.  Er bod 68% o’r ymatebion yn cytuno gyda gwahardd c?n rhag lleiniau chwaraeon wedi’u marcio, dyma oedd y cynnig a gefnogwyd leiaf a chafodd wrthwynebiadau hwyr.    Oherwydd hyn a phryderon nad oedd rhai unigolion yn ymwybodol o’r ymgynghoriad, nododd yr adroddiad ddau opsiwn: (1) argymell bod y Cabinet yn ystyried yr holl amodau arfaethedig a (2) bod y Cabinet yn ystyried cyfnod pellach o ymgynghoriad lleol i geisio safbwyntiau ar p’un a ddylid gwahardd c?n o leiniau chwaraeon wedi’u marcio mewn ardaloedd lle nad oedd cyfleusterau amgen ar gyfer mynd a ch?n am dro.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Opsiwn 1 wedi cael cefnogaeth gyffredinol gan Aelodau a oedd yn bresennol yn y gweithdy yn gynharach yn y flwyddyn.

 

I letya rhai pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton Opsiwn 1, gyda diwygiad 'i ganiatáu c?n o amgylch perimedr lleiniau chwaraeon ar dennyn'.  Cadarnhaodd Swyddogion y byddai gorfodi’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol yn dod i ben ar 20 Hydref 2017 oni bai bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored wedi’i fabwysiadu i ddod yn ei le.

 

Nododd y Cynghorydd Owen Thomas fod rhai lleiniau chwaraeon heb eu marcio ac na fyddent yn cael eu cwmpasu gan yr amodau. Teimlai y dylai cyfeiriad at gaeau gwmpasu ardal gyfan y caeau hynny ac y dylid rhoi c?n ar dennyn wrth ddefnyddio llwybrau cerdded cyhoeddus, gan ychwanegu y byddai camau ataliol o'r fath yn osgoi damweiniau posibl.  Dywedodd y swyddogion fod amodau (i) a (v) yn mynd i’r afael â’r pryderon ac y byddai arwyddion priodol yn cael eu harddangos.  Ar ôl ymholiadau pellach, esboniwyd yr ymgynghorwyd â'r Cynghorau Tref a Chymuned ar dir yr hoffent iddo gael ei gynnwys yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ac y byddai angen caniatâd ar unrhyw dir preifat pe bai ai am gael ei gynnwys ar gam yn y dyfodol. 

 

Cymharodd yr aelodau y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Shotton i Opsiwn 2.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cydnabuwyd bod llawer o berchnogion c?n yn gallu rheoli eu c?n pan fyddant yn cael eu gollwng yn rhydd am ymarfer corff a bod amod (v) wedi ei gynnwys fel amddiffyniad lle nad dyma'r achos.

 

Cafodd diwygiad y Cynghorydd Shotton ei eilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Cindy Hinds ar wahardd c?n rhag mynd i mewn i unrhyw ardaloedd chwarae, esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai angen gwahanol arwyddion ar gyfer gwahanol ardaloedd.

 

Tra roedd y Cynghorydd Veronica Gay yn cytuno gyda'r diwygiad, teimlai ei bod yn bwysig cydnabod yr angen  ...  view the full Cofnodion text for item 24