Mater - cyfarfodydd

Local Development Plan Preferred Strategy for Consultation

Cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet (eitem 46)

46 Strategaeth Ffafriedig y Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ymgynghori arni pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:         Cymeradwyo Strategaeth Ffafriedig y Cynllun Datblygu Lleol i’w chyhoeddi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arni.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad am Strategaeth Ddewisedig ar gyfer Ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol.

 

            Roedd gwaith wedi’i wneud yn derfynol ar y CDLl a oedd bellach yn arwain at Strategaeth Ddewisedig.  Roedd yr holl waith ar y Cynllun wedi’i arolygu gan Gr?p Strategaeth Cynllunio’r Cyngor (GSC) a oedd wedi ystyried a chytuno ar bob cam a hefyd wedi ystyried adborth a dderbyniwyd o’r ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu amrywiol.   Roedd y consensws o'r adborth wedi cynorthwyo'r GSC i gytuno ar gynnwys y Strategaeth Ddewisedig i’w hargymell i’r Cyngor i’w chymeradwyo a chynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ei chylch.

 

             Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod cyfarfodydd briffio am y Strategaeth wedi’u cynnal yn ystod mis Gorffennaf ar gyfer Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned cyn i'r ymgynghoriad arni ddechrau.  Roedd llawer wedi mynychu’r sesiynau ac roedd yr adborth cyffredinol yn bositif. Esboniodd nad oedd y Strategaeth yn seiliedig ar y dull gwaith traddodiadol; roedd yn cael ei arwain gan gyflogaeth. Dyma’r dull a fabwysiadwyd gan Gynghorau Môn a Gwynedd hefyd a oedd wedi paratoi CDLl ar y cyd a oedd yn 'gadarn' yn gynharach yn y flwyddyn.

  

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Strategaeth Ddewisedig y Cynllun Datblygu Lleol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol;

 

(b)       Bod swyddogion yn cael awdurdod dirprwyedig i barhau i goethi a chwblhau’r ddogfen Strategaeth Ddewisedig a gwybodaeth gefnogol yn barod ar gyfer ymgynghoriad; a

 

(c)        Bod Strategaeth Ddewisedig y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod mis Hydref 2017.