Mater - cyfarfodydd
Funding and Flight Path update
Cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 84)
84 Diweddariad am Ariannu a'r Strategaeth Berthnasol PDF 114 KB
Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y sefyllfa ariannu a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Mr Middleman drosolwg byr o’r Llwybr Cyrraedd Targed a nododd y byddai’n ehangu ymhellach ar y gwahanol elfennau o’r fframwaith yn y cyfarfodydd sy'n dod fel dilyniant o'r hyfforddiant diweddar. Prif amcan o’r Llwybr Cyrraedd Targed yw cyflawni sefyllfa a gyllidir yn llawn a gofynion cyfraniad mwy sefydlog i’r gweithwyr. Mae rheoli risg yn allweddol i hyn a’r lefel o mantoli yn bwysig gan bod y gwahanol “sbarduniadau” wedi’u bwriadu i ddarparu canlyniadau mwy sefydlog. Mae’r lefel o fantoli ar y blaen o’r lle y disgwylir iddo fod pan sefydlwyd yn 2014. Mae’r mantoli hyn i roi canlyniadau adennill mwy sefydlog.
Y prif neges yw bod y Gronfa yn bell o flaen y targed ar hyn o bryd, felly mae cynnal y sefyllfa hon wedi bod yn ffocws y gweithrediad diweddar o ddiogelu ecwiti yn y mandad Cipolwg.
Nododd y Cynghorydd Llewelyn Jones bod lleihad bach yn yr adenillion buddsoddi yn rhoi lleihad sylweddol yn y lefel cyllido. Cytunwyd y gellir ehangu hyn yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
1. Nododd y Pwyllgor y cyllid wedi’i ddiweddaru a sefyllfa mantoli y CPF, a’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.