Mater - cyfarfodydd

Pension Administration/Communications Update

Cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 82)

82 Diweddariad am Weinyddu/rhoi gwybodaeth am bensiynau pdf icon PDF 108 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch yr Adran Gweinyddu Pensiynau.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           

            Dywedodd Mr Robinson bod cynnydd da yn cael ei wneud ond cydnabu bod rhai heriau yn parhau ar y llif gwaith, a chadarnhaodd y byddai pethau yn ôl fel yr oeddynt maes o law.

 

            Nododd Mr Hibbert bod ychydig o bryderon yn yr arolwg boddhad ynghylch cyfathrebu gwybodaeth.  Dywedodd Mrs Robinson mewn perthynas â’r tîm gweinyddu, nad oedd unrhyw faterion sylweddol a bod ychydig o adborth negyddol ar un neu ddau o faterion ar eu pen eu hunain.  Fodd bynnag, roedd yr holl adborth yn cael ei gymryd o ddifrif a’i weithredu. 

 

            Rhoddwyd gopi o'r adroddiad Dangosydd Perfformiad Allweddol i’r aelodau. Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau ystyried a meddwl am gwestiynau erbyn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Pensiwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    I’r Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.

 

2.    Cytunodd y Pwyllgor i newid i’r Cynllun Busnes i gynnwys prosiect newydd ar “gydgasgliad” a Mercer sydd yn awyddus o bosibl i gynorthwyo.