Mater - cyfarfodydd

Annual Improvement Report of the Auditor General for Wales

Cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet (eitem 51)

51 Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:         Derbyn ac ymateb i Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Shotton Mr. Paul Goodlad o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod.

 

Esboniodd Mr Goodlad fod yr Adroddiad Gwella Blynyddol (AGB) yn crynhoi’r archwiliad a’r gwaith rheoleiddio a oedd wedi’i gwblhau yn y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ers i'r adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2016.  Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn yn y fformat newydd.

 

Yn gyffredinol roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i gasgliad positif sef “Mae’r Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol o ran gwelliant parhaus” ac nid oedd unrhyw argymhellion ffurfiol wedi’u gwneud yn ystod y flwyddyn. 

 

Yr Ymateb Gweithredol, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, oedd ymateb y Cyngor a statws cynnydd presennol ar y meysydd a nodwyd fel cynigion gwirfoddol ar gyfer gwelliant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar ac esboniwyd nad oedd unrhyw argymhellion ffurfiol ond roedd y Cyngor am ymateb ar y cynigion gwirfoddol am welliant.  Soniodd am yr arsylwadau positif yn yr adroddiad, yn arbennig yngl?n â’r trefniadau llywodraethu da. 

 

Yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol trafodwyd cael mwy o fewnbwn gan Bwyllgorau Craffu mewn rhai meysydd.  Eglurodd y Prif Weithredwr, ar eitemau cyllideb, bod y Pwyllgorau Arolygu a Chraffu yn gallu olrhain cynnydd y cafodd Cadeiryddion y Pwyllgorau hynny eu hannog i nodi meysydd o ddiddordeb iddynt olrhain.  Soniodd y Cynghorydd Attridge am y diffyg galwadau gan Bwyllgorau Arolygu a Chraffu ynghylch penderfyniadau’r Cabinet a oedd yn arwydd o effeithiolrwydd y broses cyn craffu a ddilynir gan y Cyngor, gan gynnwys adrodd unrhyw sylwadau penodol i’r Cabinet.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell yngl?n â methu gwarantu nifer y ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd, esboniodd Mr. Goodlad nad canran Sir y Fflint o 85% o dargedau wedi’u cyrraedd oedd yr isaf yng Nghymru ond bod rhai Cynghorau wedi cyrraedd canran uwch.   Dywedodd fod ganddynt rywfaint o le i 'gyfrifo creadigol' a hefyd sicrhau bod arbedion yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y cytunwyd arnynt i helpu i gyflawni arbedion uwch.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Adroddiad Gwella Blynyddol 2016/17 a chyflwyno’r Ymateb Gweithredol i’r Adroddiad Gwella Blynyddol i’r Cyngor Sir i’w ardystio.