Mater - cyfarfodydd

Welsh Language Annual Monitoring Report and Strategic Equality Plan annual report.

Cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 31)

31 Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/18 ac Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2017/18 pdf icon PDF 109 KB

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2017/18 terfynol y Cyngor ac Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16/18 cyn ei gyflwyno.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol adroddiad i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/18 ac Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2017/18.   Darparodd wybodaeth gefndir ac egluro bod yr adroddiad yn darparu trosolwg o gynnydd o ran cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb a Safonau'r Gymraeg, ac yn nodi meysydd i'w gwella.

 

Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon nad oedd lles pobl ifanc yn cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y Cynlluniau.   Cytunodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y bydd yn cynnwys esiamplau o waith a wnaed ar gyfer pobl ifanc a phobl h?n yn y dyfodol.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Tudor Jones yr effaith a'r cyfle sydd gan yr Aelodau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn eu cymunedau lleol.  Holodd y Cynghorydd Jones a oedd canlyniad archwiliad sgiliau'r Gymraeg yn cynnwys gweithwyr sy’n gweithio mewn ysgolion.   Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr hyn a adroddir ar Safonau’r Gymraeg yn canolbwyntio’n bennaf ar weithwyr a bod hyrwyddiad drafft yr iaith Gymraeg yn cynnwys cymunedau.   Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y byddai arolwg Cymraeg gweithlu’r Cyngor yn cynnwys yr Aelodau yn y dyfodol.

 

Holodd y Cadeirydd beth oedd cyfartaledd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer awdurdodau lleol; byddai ymateb yn cael ei anfon ar e-bost at aelodau’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i bryder gan y Cadeirydd o ran hyrwyddo ymgysylltiad gyda hyfforddiant cydraddoldeb, eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol eu bod yn hyrwyddo drwy'r Infonet a thrwy dimau rheoli gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiadau blynyddol a’r meysydd o gynnydd ar gyfer gwelliant sydd wedi’u nodi; a

 

(b)       Bod arolwg Cymraeg gweithlu’r Cyngor yn cynnwys yr Aelodau yn y dyfodol.