Mater - cyfarfodydd

Revised Environmental Enforcement and Car Parking Arrangements

Cyfarfod: 19/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 26)

26 Trefniadau Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir Diwygiedig pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:   Ceisio cymeradwyaeth Craffu ar gyfeiriad y Gwasanaeth Gorfodaeth Amgylcheddol a Pharcio Ceir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol adroddiad i ystyried cysylltu â phartner preifat arbenigol i gynnal gweithgareddau gorfodi amgylcheddol ar drosedd lefel isel megis baw c?n, taflu sbwriel a pharcio ceir ar ran y Cyngor o dan gontract dwy flynedd.

 

Roedd casgliadau treial 12 mis y cytundeb ffurfiol gyda Kingdom yn gadarnhaol o ran y cynnydd sylweddol yn y nifer o rybuddion cosb benodedig a roddwyd yn ystod yr amser hwnnw a’r effaith ar ganol trefi a mannau agored.  Dangosodd dadansoddiad o fathau o sbwriel rhwng mis Gorffennaf 2016 a mis Ebrill 2017 mai sbwriel sigaréts oedd hyn yn bennaf.     Roedd telerau’r cytundeb yn golygu bod y gyfran o incwm a gynhyrchir gan y Cyngor yn cael ei defnyddio i ariannu gweithgarwch gorfodi ychwanegol i dargedu ardaloedd penodol lle mae baw c?n yn broblem.  Byddai estyn y peilot tan fis Rhagfyr 2017 yn galluogi ystyriaeth o ddatrysiad tymor hwy.

 

I fynd i’r afael â phroblem gwastraff ochr, roedd y Cyngor yn bwriadu cymryd ymgynghoriad 3 cham i weithio gyda thrigolion a fethodd i gyflwyno eu gwastraff yn y ffordd gywir ac i ddefnyddio pwerau penodol i gyhoeddi rhybuddion cosb benodedig fel opsiwn olaf.  Byddai tîm bach o swyddogion y Cyngor yn gyfrifol am y dull gorfodi hwn, ochr yn ochr â throsedd amgylcheddol tebyg megis tipio anghyfreithlon, yn ogystal â rhoi cefnogaeth achlysurol i'r darparwr contract ar droseddau amgylcheddol lefel isel.

 

Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton ganfyddiadau’r adroddiad a siaradodd o blaid yr holl argymhellion.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd David Evans sylwadau ar safle’r Cyngor ar orfodaeth amgylcheddol.  Teimlai bod dadansoddi rhybuddion cosb benodedig yn dangos yr angen am fwy o ffocws ar droseddau baw c?n yn hytrach na thaflu sbwriel ac y byddai dod â'r gwasanaeth yn fewnol yn helpu i flaenoriaethu a mynd i’r afael â’r troseddau mwyaf pryderus.    Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y canlyniadau mwy llwyddiannus o drefnu'r gwasanaeth drwy gontract allanol a sicrhaodd fod camau gorfodi baw c?n (er ei fod yn fwy heriol i’w orfodi) yn flaenoriaeth allweddol.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod sbwriel sigaréts yn broblem eang a bod effaith y peilot yn amlwg ar draws y sir.  Anogodd Aelodau i rannu cudd-wybodaeth ar faw c?n, gan ddarparu manylion swydd yr uwch swyddog i reoli'r contract allanol a delio gyda’r apeliadau.

 

Cytunodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ategol i ddosbarthu’r adroddiad ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, ynghyd â manylion ar y nifer o achosion gorfodi yr aeth y Cyngor â hwy i'r llys.

 

O ran gorfodi gwastraff ochr, ar gyfer y ddau opsiwn ar gam 1 y broses, esboniwyd y byddai'r bin yn cael ei labelu i gynghori'r trigolion pam bod gwastraff wedi cael ei dynnu oddi yno neu bod un bag ar ôl yn y bin gwag.  Pwysleisiwyd na fyddai gwastraff ochr yn cael ei adael y tu allan i eiddo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Haydn Bateman Opsiwn 1 cam 1 y broses, sef cael gwared ar bob gwastraff ochr yn y lle cyntaf.

 

Dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 26