Mater - cyfarfodydd

Statement of Accounts 2016/17

Cyfarfod: 27/09/2017 - Pwyllgor Archwilio (eitem 24)

24 Datganiad Cyfrifon 2016/17 pdf icon PDF 92 KB

Mae'r adroddiadau’n cyflwyno’r fersiwn wedi’i archwilio terfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 i’r Aelodau ei argymell i'r Cyngor, ac yn cynnwys hefyd adroddiad yr archwilwyr allanol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y fersiwn derfynol wedi ei archwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 gydag adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn gysylltiedig ag archwiliad y datganiadau ariannol a Llythyrau Sylwadau ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint a Chronfa Bensiwn Clwyd.  Diolchodd i swyddogion y Cyngor a chydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru ar eu gwaith ar y cyfrifon oedd wedi eu harchwilio yr oeddynt yn ceisio cymeradwyaeth arnynt er mwyn eu hargymell i’r Cyngor Sir ar yr un diwrnod er mwyn cwrdd y dyddiad cau cyhoeddi statudol.  Roedd ymatebion a roddwyd i gwestiynau ar y cyfrifon drafft wedi eu cylchredeg i bob Aelod oedd wedi cael cyfle i drafod ymholiadau pellach gyda swyddogion.

 

Rhoddwyd cyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Diweddariad Cynnydd ers Gorffennaf

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Cyfrifon y Cyngor

o   Cynnydd wrth fynd i’r afael â materion y llynedd

o   Camddatganiad heb ei addasu

o   Addasiadau i ddrafft Datganiad Cyfrifon

·         Cyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd

o   Cynnydd wrth fynd i’r afael â materion y llynedd

o   Addasiadau i ddrafft Datganiad Cyfrifon

o   Adborth gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

 

Nododd y Rheolwr Cyllid – Cyfrifyddiaeth Dechnegol – gydnabyddiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru o gynnydd da o ran camau a gymerwyd i fynd i’r afael â materion a godwyd yn ystod y broses o archwilio cyfrifon 2015/16.  Roedd rhai camgymeriadau yn anochel oherwydd maint a chymhlethdod cyfrifon llywodraeth leol ac roedd penderfyniadau yngl?n ag a ddylid newid y rhain yn y cyfrifon yn seiliedig ar gyfuniad o fateroliaeth, barn yr archwilydd, a chymhlethdod a gwerth addasu.  Rhoddodd y Rheolwr Cyllid drosolwg o'r rhaglen o addasiadau a chynghorodd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cefnogi barn y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon y dylai un camddatganiad aros heb ei gywiro yn y cyfrifon.

 

Ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd, bu i’r Rheolwr Cyllid Pensiynau grynhoi’r addasiadau oedd oll o dan fateroliaeth a chynghorodd nad oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro.  Cadarnhaodd fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd wedi derbyn cyflwyniad manwl gan swyddogion fod nad oedd gan Swyddfa Archwilio Cymru unrhyw broblem yngl?n â'r cyfrifon oedd wedi eu harchwilio.

 

Dywedodd Mr. John Herniman o Swyddfa Archwilio Cymru, fod eleni yn gyffredinol yn flwyddyn bositif arall ar gyfer cyfrifon y Cyngor a chanmolodd Swyddogion Cyllid a’r tîm am weithio yn effeithiol i goladu'r cyfrifon a datrys problemau.  Cadarnhaodd fod barn anghymwys ('glân') wedi ei roi ar y cyfrifon a bod y penderfyniad ar y camddatganiad heb ei gywiro wedi ei gefnogi ac nad oedd yn effeithio barn yr archwiliad.  Canmolwyd rôl barhaol y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon wrth oruchwylio’r cyfrifon.  Byddai’r gofyniad i symleiddio’r amserlen cynllunio cyfrifon berthnasol ar draws llywodraethau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill mewn sawl blwyddyn yn heriol.

 

Roedd barn archwilio ‘lân’ hefyd wedi ei rhoi ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd er bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi nad oedd safonau wedi cyrraedd y lefel a gyrhaeddwyd yn y blynyddoedd blaenorol.  Roedd Mr. Herniman yn fodlon fod y rhain yn cael eu trin ar gyfer cyfrifon y flwyddyn nesaf ac roedd yn falch  ...  view the full Cofnodion text for item 24