Mater - cyfarfodydd
Community Asset Transfer Programme
Cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet (eitem 58)
58 Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a Pholisi Cynaliadwyedd PDF 82 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet am Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a Pholisi Cynaliadwyedd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Biodiversity Duty Plan and Sustainability Policy, eitem 58 PDF 572 KB
- Enc. 2 for Biodiversity Duty Plan and Sustainability Policy, eitem 58 PDF 75 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth a’r Polisi Cynaliadwyedd a oedd wedi’u cynhyrchu mewn ymateb i’r dyletswydd gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Roedd y Ddeddf yn mynnu fod rhaid i Awdurdodau Lleol geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled a’i fod yn cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn briodol ac wrth wneud hynny, rhaid hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.
Roedd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i weithredu cynaliadwyedd ac arwain drwy esiampl o ran diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol. Byddai Polisi’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gosod allan dull gwaith Sir y Fflint i gyflawni’r her.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod hyn yn gysylltiedig â blaenoriaeth yng Nghynllun ‘Cyngor Gwyrdd’ y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar y weledigaeth, yr amcanion a’r camau gweithredu a osodir allan yn y Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth; ac
(b) Ardystio Polisi’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.