Mater - cyfarfodydd
Review of Dispensations
Cyfarfod: 04/09/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 21)
21 Adolygu Trwyddedau PDF 66 KB
Y Pwyllgor i adolygu trwyddedau yn unol â’r gofyniad i adolygu trwyddedau’n flynyddol
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Is-swyddog Monitro yr adroddiad ac esboniodd bod rhaid adolygu pob rhyddhad a ganiateir gan y Pwyllgor Safonau ac sy’n parhau i fod ar waith gan y Pwyllgor unwaith bob 12 mis o'r dyddiad y caniatawyd y rhyddhad yn y lle cyntaf.
Dosbarthodd yr Is-swyddog Monitro restr yr holl ganiatâd am ryddhad a roddwyd gan y Pwyllgor a oedd yn parhau i fod ar waith yn ogystal â’r rhai a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar ond roedd y Cynghorwyr dan sylw wedi gofyn iddynt gael eu hymestyn. Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu p’un ai a ddylai’r rhyddhad barhau i fod ar waith neu gael eu hymestyn.
Esboniodd yr Is-swyddog Monitro bod yna sawl caniatâd am ryddhad ar gofnod a oedd wedi’u rhoi 10 mlynedd ynghynt a bod llythyrau wedi cael eu hanfon at bob Aelod i roi gwybod iddynt am yr argymhelliad i ddileu rhyddhad a roddwyd 10 mlynedd yn ôl neu fwy. Gofynnwyd i aelodau gysylltu â’r Swyddog Monitro i neu Is-swyddog Monitro os oedd ganddynt unrhyw bryderon am y cynnig.Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried a chymeradwyo cael gwared ar ryddhad a roddwyd dros 10 mlynedd ynghynt. Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylid cytuno ar yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan Ken Molyneux a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor.
Esboniodd yr Is-swyddog Monitro bod Cynghorwyr a chanddynt ryddhad effeithiol wedi cael gwybod am ofyniad y Pwyllgor Safonau i adolygu eu rhyddhad a phenderfynu p’un ai a fyddant yn parhau i gael effaith, yn ogystal â'r rheiny a chanddynt ryddhad a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD:
Dileu pob rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau dros 10 mlynedd ynghynt.
Cynghorydd Sir Dennis Hutchinson
Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson o dan baragraff (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 am gyfnod o 12 is (yn dod i ben ar 3 Medi 2018) i siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Bwcle wrth ystyried cais am gymorth ariannol gan Ganolfan Gymunedol Hawkesbury. Mae’r rhyddhad yn caniatáu iddo aros yn yr ystafell i siarad ac ateb cwestiynau ond rhaid iddo adael yr ystafell (ac felly ddim pleidleisio) ar ôl gwneud hynny.
Cynghorwyr Sir Dennis Hutchinson a Mike Peers
Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorwyr Dennis Hutchinson a Mike Peers am gyfnod o 12 mis (yn dod i ben ar 3 Medi 2018) o dan baragraffau (d), (f) a (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i gyfathrebu gyda swyddogion Cyngor Tref Bwcle a Chyngor Sir Y Fflint mewn pob mater sy’n gysylltiedig â Hen Neuadd Gymunedol Baddonau Bwcle Cyfyngedig i:
- siarad ac ateb cwestiynau
- Gadael y cyfarfod cyn i’r ddadl ddechrau
- peidio â phleidleisio
- cyfathrebu gyda swyddogion mewn ysgrifen
- trafod gyda swyddogion os oedd o leiaf 3 pherson yn bresennol - 2 annibynnol (nid ymddiriedolwr arall na’u gwraig) a bod trafodaethau’n cael eu cofnodi
Cynghorydd Sir Dennis Hutchinson
Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson am gyfnod o 12 mis (yn dod i ben ar 3 Medi) o dan baragraffu (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) ... view the full Cofnodion text for item 21