Mater - cyfarfodydd
Public Services Ombudsman for Wales Annual Report for the Year 2016/17
Cyfarfod: 04/09/2017 - Pwyllgor Safonau (eitem 23)
23 Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2016/17 PDF 76 KB
Pwrpas: Nodi’r materion sy’n ymwneud â Chwynion Cod Ymddygiad a adroddwyd yn Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Is-swyddog Monitro yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r prif faterion yn yr Adroddiad Blynyddol gyda ffocws arbennig ar safonau cynghorwyr Sir a Thref a Chymuned. Rhoddodd wybod mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol oedd adrodd ar berfformiad swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) dros y flwyddyn ac i gyflwyno unrhyw negeseuon allweddol sy’n codi o’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn.
Cyfeiriodd yr Is-swyddog Monitro at y prif ystyriaethau oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghylch cwynion Cod Ymddygiad ac achosion cod ymddygiad.
Yn ystod y drafodaeth cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn dosbarthu copi lliw o’r Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.