Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 7)

Cyfarfod: 14/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 55)

55 Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7) i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ym Mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

  Ar Gronfa’r Cyngor, rhagwelwyd y byddai’r sefyllfa net yn ystod y flwyddyn £1.262m yn uwch na’r gyllideb, a oedd yn gynnydd o £0.115m ers Mis 6. Roedd y newidynnau arfaethedig mwyaf sylweddol ar gyfer cost uchel y lleoliadau ychwanegol y tu allan i’r sir a’r oedi wrth weithredu effeithlonrwydd cymhorthdal bysiau yn ystod y flwyddyn, a oedd wedi’u gosod yn erbyn trosglwyddiad costau cludiant ysgol o Strydwedd a Chudliant.

 

Ar arbedion cynlluniedig, amcangyfrifwyd y byddai 93% wedi’u cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Byddai angen dadansoddi effeithiau y risgiau newydd sy’n dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ar gyllideb 2018/19 ac fel y trafodwyd yn ystod cyfarfod diweddar y Cyngor Sir byddai’r symiau ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r Gronfa Gofal Canolraddol yn cael eu cynnwys o fewn cynigion Cam 2.Cynlluniwyd gwaith pellach ar faterion sylweddol eraill megis caffael cludiant lleol a chludiant ysgol yn dilyn y gweithdy i Aelodau, y costau cynyddol ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir a chwrdd â’r targedau incwm. Yn dilyn diweddariad ar gronfeydd wrth gefn a balansau, nodwyd bod disgwyl i’r gronfa wrth gefn o £20.3m a glustnodwyd haneru erbyn diwedd y flwyddyn, ac amlygwyd Strategaeth y Gyllideb Wrth Gefn a Balansau Ysgolion fel y prif faterion.

 

Ni adroddwyd unrhyw newid sylweddol ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £0.035m yn is na’r gyllideb.

 

Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu gwybodaeth am ‘Flintshire Enterprise Ltd’ a oedd yn ymddangos ar y tabl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am y lefelau incwm gan drwyddedau parcio Neuadd y Sir a oedd yn is na’r disgwyl a chafodd wybod bod y rhain yn rhan o gynigion cyllideb Cam 2 i’w hystyried yn y Flwyddyn Newydd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y tabl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a dywedodd y dylid cyflwyno’r cronfeydd hynny nad oeddent yn dangos unrhyw newid i ddiwedd y flwyddyn (sy’n gyfanswm o £2.45m) yn ôl i’r gyllideb i’w defnyddio yn hytrach na gadael iddynt barhau yn awtomatig.Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y tabl wedi'i gynnwys mewn adroddiadau chwarterol, ac fel rhan o gynllunio rheolaeth ariannol, cadwyd y symiau am resymau amrywiol ac roeddent yn destun adolygiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones y dylid trin y balansau ar refeniw'r un fath â chyfalaf ac os nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol, dylai’r gwasanaeth orfod ailymgeisio. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol i ddeall goblygiadau hyn.

 

Ar Atodiad 1 yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai'n ddefnyddiol i ddangos yr amrywiant mewn coch. Cyfeiriodd at dri amrywiant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Anableddau – Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig;  ...  view the full Cofnodion text for item 55