Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 14/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 56)

56 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai modd dwyn ymlaen cyfarfod, a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ionawr 2018, i ystyried diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyngor gan gynnwys y symiau canlyniadol o unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor am dderbyn ei Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar 20 Rhagfyr ac ni fyddai o bosib yn derbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol tan ddyddiad diweddarach. Awgrymodd y dylai’r Prif Weithredwr a’r Arweinydd ddosbarthu nodyn i Aelodau wedi iddynt dderbyn y wybodaeth, gan gydnabod y byddai hyn efallai yn y Flwyddyn Newydd.

 

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn agored i'r holl Aelodau er mwyn ystyried yr eitemau cyllideb.

 

Cytunwyd:

 

·         Byddai’r adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu manwl, a drafodwyd yn gynharach, yn cael ei drefnu ar gyfer 15 Chwefror 2018.

·         Byddai’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn cael ei drefnu ar gyfer 15 Chwefror 2018.

·         Rhoddir cadarnhad os yw’r cyfarfod ymgynghori ar y gyllideb ar ddiwedd mis Ionawr am fynd rhagddo.

·         Byddai Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ym mis Mawrth yn cynnwys eithriadau a adroddwyd i’r holl bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn ôl y gofyn yn y cyfarfod blaenorol.

·          

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda diwygiadau;

 

 (b)      Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.