Mater - cyfarfodydd

Revised Regional Model for Secondary School Support

Cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 19)

19 Model Rhanbarthol Diwygiedig ar gyfer Cefnogaeth Ysgolion Uwchradd pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas: Rhoi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaw i rym o fis Medi 2017.

Cofnodion:

Cyflwynoddy Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaeth i rym ym mis Medi 2017.

 

            Esboniodd Uwch Reolwr Interim y Systemau Gwella Ysgolion fod adolygiad diweddar o berfformiad ysgol gan GwE wedi tynnu sylw at bryderon am berfformiad ysgolion uwchradd ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru.  Daeth yr adolygiad i'r casgliad hefyd nad oedd y model gweithredu gwreiddiol o raniad 80/20 o adnoddau o blaid ysgolion cynradd yn addas i'r pwrpas bellach a bod angen cyfeirio mwy o adnoddau at ysgolion uwchradd i sicrhau gwelliant cyflym.  Cyflwynodd Mr Alwyn Lloyd Jones – Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE, Mr Elfyn Vaughan Jones – Arweinydd Uwchradd Rhanbarthol GwE, a Mr Martyn Froggett – Arweinydd Craidd Uwchradd ar gyfer Sir y Fflint, a’u gwahodd i adrodd ar y sail resymegol ar gyfer newid, gan ddarparu trosolwg o sut y byddai’r model rhanbarthol diwygiedig ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd yn cael ei weithredu. 

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar berfformiad ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint, gan roi gwybodaeth ar ganran y disgyblion a gyrhaeddodd lefel 2 ac uwch rhwng 2013 a 2016 mewn ysgolion uwchradd, fel enghraifft o’i bryderon.    Wrth ymateb i’r materion a godwyd, cydnabu GwE yr angen i wella gan ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud. Rhoddodd swyddogion GwE sicrwydd hefyd fod ysgolion uwchradd Sir y Fflint yn perfformio’n dda o gymharu ag awdurdodau eraill. 

 

                        Yn ystod trafodaethau, ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon pellach a godwyd ynghylch y data a ddarparwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pherfformiad ysgolion, yn seiliedig ar feincnodau a chymhwysedd prydau ysgol am ddim.  

 

                        Cododd Mr  David Hytch y mater o recriwtio athrawon, gan wneud sylw ar broblem recriwtio athrawon pynciau arbenigol, a chyfeirio at Fathemateg fel enghraifft.  Cytunodd y Cynghorydd Ian Roberts gyda'r sylwadau a wnaed gan MrHytch ar y mater recriwitio a chadw athrawon yn ysgolion Sir y Fflint, gan awgrymu efallai y bydd y Pwyllgor am anfon llythyr arall at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg i amlinellu ei bryderon, a chytunwyd ar hyn gan y Pwyllgor.  Cytunwyd hefyd y byddai'r Hwylusydd yn dosbarthu copi o'r llythyr blaenorol a gafodd ei anfon at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, yn ogystal ag ymateb y Gweinidog.

 

                        Yn ystod trafodaeth, codwyd materion pellach cefnogaeth ar gyfer penaethiaid, iechyd a lles staff ysgolion, balans rhwng gwaith a bywyd personol, a rhaglenni arweinyddiaeth gynaliadwy. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r newidiadau i’r model cefnogaeth ranbarthol ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd; 

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion uwchradd a'r newidiadau a ddyluniwyd i wella perfformiad ysgolion yn Sir y Fflint; a

 

(c)      Bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, ar ran y Pwyllgor, gan amlinellu ei bryderon ynghylch recriwtio athrawon.