Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Social & Health Care)
Cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)
16 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol er mwyn ei hystyried. Dywedodd y cytunwyd y byddai cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ystod Medi 2017, er mwyn trefnu eitemau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Byddai aelodau’n cael gwybod am y dyddiad maes o law.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at Bapur Gwyn y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd wedi ei anfon ar e-bost i’r Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog y dylai ymatebion gael eu hanfon at yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu erbyn diwedd Awst 2017.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn ddibynnol ar y newid uchod.
(b) Fod ymatebion Aelodau i Bapur Gwyn y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd wedi eu hanfon ar e-bost at y Pwyllgor yn cael eu hanfon at yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu erbyn diwedd Awst 2017.